Cyfleusterau Cambria
Cyfleusterau o’r radd flaenaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Edrychwch ar ein cyfleusterau arwain diwydiant ar bob un o’n safleoedd sy'n cynnwys Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Peirianneg, Canolfan Brifysgol, Chweched Dosbarth o’r radd flaenaf, Canolfan STEM, Ysgol Fusnes Cambria, Fferm 1,000 erw a Chanolfan Gofal Anifeiliaid.
Buddsoddwyd £8.5 miliwn yn ein safle Ffordd y Bers i greu amgylchedd dysgu ysbrydoledig newydd.
Mae'r gwaith adeiladu newydd yn cynnwys 'Canolfan Technoleg Peirianneg' 2 lawr i ddysgwyr, sy'n cynnwys gweithdai Canolfan Technoleg Peirianneg, Adeiladu, Weldio a Cherbydau Modur o’r radd flaenaf.