
Archebwch Eich Lle Digwyddiad Agored Hygyrch Nawr!
Mae gwahoddiad i bobl niwro-amrywiol sydd eisiau astudio yn Cambria ymuno â’n Digwyddiadau Agored Hygyrch yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam ym mis Mawrth.
Mae’n rhoi’r cyfle perffaith i ddarganfod popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad synhwyraidd cefnogol.
Cewch wybod rhagor am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau rhagorol a dysgu am ein holl gymorth cynhwysiant a dysgu gan ein Pennaeth Cynhwysiant, Lizzie Stevens.
Mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig er mwyn eich galluogi i fwynhau’r digwyddiad agored mewn awyrgylch synhwyraidd gyfeillgar heb ormodedd o bobl.
Dydd Mercher 23 Mawrth: Glannau Dyfrdwy 5.30pm – 6.30pm
Dydd Iau 24 Mawrth: Iâl – 5.30pm – 6.30pm
Er mwyn gwneud y gorau o’r amser sydd ar gael rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd am 5.30pm
Er mwyn cynorthwyo ein cyd weithwyr a’n ymwelwyr yn ein digwyddiadau agored sydd i ddod, rydym yn gofyn i chi wneud Prawf Llif Unffordd (LFT) cyn dod i’r safleoedd. Os yw eich LFT yn bositif peidiwch â dod i’r safle a dilynwch gyngor y llywodraeth ynglŷn â hunan ynysu.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru rydym yn gofyn i chi barhau i wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn dod i’n diwrnodau agored.