
Nick Tyson – Pennaeth Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg ac Adeiladu

Rwy’n falch o gael cyhoeddi ein bod yn buddsoddi £10 miliwn yn ein safle yn Ffordd y Bers er mwyn creu canolfan arwain y sector ar gyfer Technolegau Peirianneg ac Adeiladu yn Wrecsam. Rhan o’r buddsoddiad hwn yw’r Ganolfan Technoleg Peirianneg (CTP) newydd sbon, sy’n gyfleuster peirianneg o’r radd flaenaf gwerth £5.5 miliwn. Mae gan y CTP newydd 2 lawr o gyfleusterau modern, rhyngweithiol ac mae’n cynnwys yr offer Peirianneg diweddaraf yng Nghymru.
Agorwyd y Ganolfan Technoleg Peirianneg yn swyddogol gan Lesley Griffiths AC, ddydd Gwener 2 Chwefror a gallwch ddarllen rhagor am y digwyddiad lansio yma. (link to news story on website)
![]() |
![]() |
Y mis diwethaf, roeddem wrth ein bodd gyda’n carfan gyntaf o fyfyrwyr gradd Baglor Peirianneg a hoffem eu llongyfarch ar eu llwyddiant gwych. Roedd yn bleser mawr cael bod yn bresennol yn y seremoni yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
Cliciwch yma i ddarllen y stori gyfan.
Fe wnaethom gyhoeddiad mawr ddiwedd mis Ionawr, sef ein bod wedi lansio partneriaeth gyffrous newydd arloesol gyda Redrow, yr adeiladwr tai blaenllaw, a Phrifysgol John Moores Lerpwl (LJMU), i sefydlu Gradd Adeiladu Tai penodol gyntaf Prydain. Fel un o’r darparwyr addysg a hyfforddiant mwyaf yng Nghymru a Gogledd Orllewin Lloegr, rydym yn falch o gael gweithio gyda chwmni fel Redrow sy’n arwain y sector, i ddarparu cyfleoedd i’w staff feithrin sgiliau yn y diwydiant adeiladu tai.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth
Gwyliwch fan hon… Rydym yn cynllunio cynnig cyffrous a fydd yn darparu rhaglenni prentisiaeth newydd mewn partneriaeth gyda yng Nglannau Dyfrdwy Thomas Cook Airlines. Disgwylir y bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Medi.
yn ôl