main logo

Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Addysg a Hyfforddi (QCF)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14722
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Rhan Amser, 12 wythnos. Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost atjeanette.edwards@cambria.ac.uk
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
22 Apr 2024
Dyddiad Gorffen
17 Oct 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi mewnwelediad i rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.

Gall y cymhwyster hwn eich helpu i symud ymlaen mewn rolau addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. Mae'r rhain yn cynnwys:

● Sefydliadau sector cyhoeddus

● Sefydliadau sector preifat

● Addysg Bellach, Addysg i Oedolion ac Addysg yn y Gymuned.

Uned 301) Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi'r dysgwyr i ddeall rôl a chyfrifoldebau athro a’r berthynas rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol mewn addysg a hyfforddiant. Mae'n cynnwys bod yn gyfrifol am gynnal amgylchedd dysgu diogel a chefnogol. [3 credyd]

(Uned 302) Deall a defnyddio dulliau addysgu a dysgu cynhwysol
mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi'r dysgwyr i ddeall a defnyddio dulliau addysgu a dysgu cynhwysol. Mae'n cynnwys sut i greu amgylchedd dysgu difyr ac ysgogol a sut i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso ffyrdd a dulliau sy’n cael eu defnyddio. [6 credyd]

(Uned 305) Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi'r dysgwyr i ddeall sut mae gwahanol fathau a dulliau asesu yn cael eu defnyddio. Mae'n cynnwys ffyrdd o gynnwys dysgwyr mewn asesu a gofynion ar gyfer cadw cofnodion yn effeithiol.
Mae hefyd yn cynnwys sesiwn meicroaddysgu ymarferol 30 munud i gymheiriaid ar bwnc a ddewiswyd o arbenigedd pwnc personol. [3 credyd]

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r 12 credyd er mwyn cyflawni’r Dyfarniad Lefel 3 llawn mewn Addysg a Hyfforddiant.
Bydd dysgwyr yn llunio Portffolio o Dystiolaeth sy’n cynnwys 3 aseiniad ysgrifenedig (ar gyfer unedau 301, 302 a 305) ac aseiniad ymarferol, h.y. sesiwn micro-ddysgu 20 munud o hyd i’w chyflwyno i gymheiriaid (uned 302).
Nid oes gofynion mynediad i’r rhaglen, er bod angen I ddysgwyr gymryd rhan mewn asesiadau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol WEST.

Jeanette.edwards@cambria.ac.uk
Mae’r cymwysterau hyn yn gallu eich helpu i symud ymlaen i swyddi addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Sefydliadau’r sector cyhoeddus
• Sefydliadau’r sector preifat
• Addysg Bellach, Addysg i Oedolion ac Addysg yn y Gymuned
£495

Gwerslyfrau’r Cwrs – Amanda Turner & Joanne Whiting, Level 3 Award in Education and Training, City & Guilds, Llunain, 2014. (ISBN 978 0 85193 294 1) & Ann Gravells, The Award in Education & Training, 2014 (ISBN 978-1473912212)

Anogir dysgwyr i ddarllen yn ehangach, y tu hwnt i werslyfrau’r cwrs.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?