main logo

Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01445
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs dwys blwyddyn, llawn amser
Adran
Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Proffesiynol Lefel 4 UAL mewn Perfformio wedi’i lunio i ddarparu’r sgiliau, gwybodaeth a’r ddealltwriaeth briodol i fyfyrwyr symud ymlaen i addysg uwch neu hyfforddiant conservatoire a gall hefyd gynorthwyo myfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y diwydiannau perfformio.

Gan ganolbwyntio ar eich sgiliau fel actor proffesiynol dan hyfforddiant, bydd y cwrs hwn yn cynorthwyo eich datblygiad drwy archwiliad trylwyr a pharhaus o ystod o fethodoleg ac ymarfer perfformiad. Mewn diwydiant sy’n cynyddu yn gystadleuol, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu ystod well o sgiliau actio a dealltwriaeth well o’r cefndir damcaniaethol i berfformio effeithiol a chyffrous.

Ar y cwrs byddwch yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu eich sgiliau wrth weithio gyda thestun dramatig. Byddwch yn ystyried ystod o ddramâu o wahanol gyfnodau yn hanes theatr ac ystod o arddulliau dramatig. Bydd eich dealltwriaeth o’r dramâu hyn yn cael ei chefnogi a’i llywio drwy archwiliad ymarferol a damcaniaethol o syniadau ystod o ymarferwyr.

Bydd addysgu yn cynnwys cymysgedd o sesiynau ymarferol a damcaniaethol dan arweiniad darlithydd, mewn actio, llais a symud, ymchwil a gwaith prosiect dan arweiniad darlithydd, dosbarthiadau meistr gan weithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n ymweld â’r coleg, ymweliadau theatr a chefnogi gofal bugeiliol a thiwtorial.

Bydd y staff yn canolbwyntio ar ddatblygu agwedd gwbl broffesiynol drwy’r amser drwy gynnal lefelau uchel o d disgwyliadau a modelu ymddygiad o'r fath eu hunain.

Bydd y syniadau a’r technegau y byddwch chi’n eu harchwilio yng Nghamau 1 a 2 (Unedau 1 a 2) yn llywio eich gwaith ar gynhyrchiad cyhoeddus llawn o destun dethol yng Ngham 3 (Uned 3). Bydd y perfformiad hwn yn cael ei gynnal yn ein theatr stiwdio sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol.
Mae dulliau asesu yn amrywio gan ddibynnu ar y prosiectau gwahanol y byddwch chi’n eu cymryd drwy gydol y flwyddyn – mae llawer o asesiadau perfformiad ymarferol yn canolbwyntio ar ymgysylltiad y myfyriwr â’r gwaith ar adeg benodol. Yn ogystal, bydd tiwtoriaid yn darparu marc asesu parhaus yn seiliedig ar gyfraniad a phroffesiynoldeb y dysgwr i’r broses a arweiniodd at yr asesiad.

Gall ffurfiau asesu gynnwys cyflwyniadau theatr a stiwdio, aseiniadau ymarferol gyda dogfennaeth ysgrifenedig ategol, arddangosiadau o waith sydd ar y gweill, a pherfformiadau terfynol. Mae asesiadau’n cael eu hystyried yn rhan annatod o’r broses ddysgu ac mae goruchwyliaeth, adborth a chefnogaeth ar gael ar gyfer pob cwrs a asesir.

Asesu a graddio:
● Caiff Unedau 1 a 2 eu hasesu gan staff addysgu a’u graddio gyda llwyddo / methu yn unig.
● Bydd angen i fyfyrwyr gyflawni graddau llwyddo ar gyfer y ddwy uned er mwyn parhau i Uned 3.
● Caiff Uned 3 ei hasesu gan staff addysgu a’i chymedroli’n allanol gan UAL. Caiff yr uned hon ei graddio gyda methu / llwyddo / teilyngdod / rhagoriaeth a bydd yn rhoi gradd cymhwyster cyffredinol i’r myfyriwr.
– Lefel 3 (Diploma Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu) neu gymhwyster Safon Uwch cyfwerth (3 Safon Uwch ar radd C neu uwch – gan gynnwys Astudiaethau Theatr)

– Mae croeso I fyfyrwyr aeddfed sydd heb unrhyw gymwysterau ffurfiol ond yn gallu dangos angerdd ac ymrwymiad at astudio, wneud cais hefyd.

– Clyweliad a chyfweliad llwyddiannus gydag arweinydd y cwrs

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
– Actio ffilm neu deledu
– Actio theatr
– Actio radio
– Gwaith troslais
– Gwaith yn y cyfryngau digidol
– Cyfarwyddo
– Theatr Gymhwysol
– Addysgu
– Hyfforddiant pellach dros ystod o arbenigeddau posibl
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer sy’n atodedig i gael gwybodaeth bellach.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?