main logo

Mynediad Cyfun i AU - Gofal Iechyd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01017
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd.Mae’r rhaglen Mynediad Cyfun yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy gredydau am fodiwlau y gallwch eu hastudio’n llawn amser dros gyfnod o flwyddyn (34 wythnos academaidd) o fis Medi hyd at fis Mehefin. Cynigir y cwrs ar 53% o gyswllt wyneb yn wyneb, yn rhedeg ar ddydd Iau rhwng 9.15am a 6.30pm ar y safle. Bydd y gweddill yn cael ei gyflwyno fel e-ddysgu ar-lein y gellir ei gwblhau ar adeg sy’n addas I chi yn ystod eich wythnos.Mae eich sgiliau rheoli amser personol yn agwedd bwysig ar y rhaglen hon ac mae’n hanfodol eich bod yn cynllunio ymlaen llaw faint o’ch amser y byddwch yn ei neilltuo ar gyfer eich astudiaethau ar-lein ac annibynnol. Byddai cael cynllun astudio yn ei le o fudd a byddai’n rhoi gwell cyfle I chi lwyddo.Cafodd y cymhwyster Gofal Iechyd ei lunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen I astudio cyrsiau gradd a dilyn gyrfaoedd yn y sector gofal fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg neu Reoli Iechyd.
Adran
, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl
Dyddiad Dechrau
07 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr i astudio mewn prifysgol. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau gorfodol yn y pynciau arbenigol, ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd.
Mae’r unedau’n cynnwys pynciau fel Anatomi a Ffisioleg, Cymdeithaseg ac Iechyd.
Bydd y sgiliau craidd yn cynnwys sgiliau fel cyfathrebu ac astudio. Yn ogystal â darlithoedd ffurfiol ac astudio ar-lein, mae modiwl lleoliad gwaith ar gael hefyd
(nid oes angen lleoliad gwaith arnoch chi)
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofion wedi’u hamseru neu arholiadau. Byddwch yn ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau cymhwyster lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU gradd C/4 mewn Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Fathemateg, gyda gradd D/3 o leiaf yn y pwnc arall.
NEU
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.

Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn i astudio’r cwrs hwn.

Dylai’r dysgwyr ymrwymo i raglen lefel 3 llawn amser ac i ddatblygu eu gallu i astudio. Mae sgiliau TG yn hanfodol oherwydd bod rhan sylweddol o’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein.

Anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion i gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Nyrsio yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg.
Cafodd y cymhwyster Gofal Iechyd ei lunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i astudio cyrsiau gradd a dilyn gyrfaoedd yn y sector gofal fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg neu Reoli Iechyd.
Efallai bydd angen prynu gwisg a / neu offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?