Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01940 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos) |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid, Sgiliau Sylfaen |
Dyddiad Dechrau | 06 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Sgiliau Sylfaen yw'r enw a roddir ar raglenni lefel Mynediad Coleg Cambria. Mae Sgiliau Sylfaen yn cynnig rhaglen wedi'i chefnogi'n llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y coleg.
Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc chwalu unrhyw rwystrau a allai fod ganddynt i ddysgu, gan ganiatáu iddynt dyfu a datblygu'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd er mwyn cyflawni eu llawn botensial a symud ymlaen yn llwyddiannus i'w lefel nesaf o ddysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, eu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd mewn awyrgylch creadigol a chroesawgar.
Bydd gweithgareddau cyfoethogi yn datblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth, gan helpu i fagu hyder a goresgyn unrhyw bryderon neu rwystrau cymdeithasol. Yn ystod y gweithgareddau hyn bydd y dysgwyr yn gweithio tuag at dystysgrif Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr Efydd Dug Caeredin.
Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ac unwaith y byddant yn barod, bydd y dysgwyr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.
Bydd dysgwyr yn cael Hyfforddwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i’r dysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen er mwyn eu helpu i lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Cynhelir Sgiliau Sylfaen dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ac oddi ar y safle.

Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at gwblhau nifer o unedau gwahanol i’w helpu i ennill cymhwyster Mynediad Bywyd a Sgiliau Byw, cymhwyster Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobr Efydd Dug Caeredin i’w helpu i symud ymlaen i Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac felly nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer mynediad i’r cwrs hwn.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i gyflawni cymhwyster mynediad mewn Sgiliau Bywyd a Byw, cymhwyster Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr Efydd Dug Caeredin i gefnogi dilyniant pellach i Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023
17:30
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023