Lefel 3 Gofal, Dysgu trwy Chwarae a Datblygu Plant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP52317
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd o hyd.
Adran
Gofal Plant
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn amgylcheddau neu wasanaethau Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae’r cwrs yn ymdrin ag ystod oedran o enedigaeth I 19.

Byddwch yn astudio ystod o bynciau gan gynnwys gwerthoedd ac egwyddorion yn y maes gofal plant, iechyd, llesiant, dysgu a datblygu, arferion proffesiynol, diogelu, hyrwyddo chwarae, ymddygiadau ac anghenion ychwanegol.

Mae elfen lleoliad gwaith sylweddol sydd yn gysylltiedig â’r cwrs, a bydd gofyn I chi gwblhau 700 awr o waith o leiaf, mewn lleoliad perthnasol dros y ddwy flynedd.
Mae’r cwrs yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol a dewisol. Bydd asesiadau felly ar ffurf aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau, astudiaethau achos ac arsylwadau gan asesydd mewn lleoliad.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Gwyddoniaeth os yn bosib, neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae cyflogaeth ar gael mewn Ysgolion Awdurdodau Lleol, Meithrinfeydd dydd, y Gwasanaeth Iechyd, gwaith chwarae a lleoliadau gofal, unedau anghenion arbennig, y diwydiant teithio a gyda theuluoedd preifat sydd angen nani. Mae nifer o gyfleoedd i chi weithio a theithio dramor.

Gall cwblhau’r Diploma yn llwyddiannus arwain at Addysg Uwch fel Gradd Sylfaen yn y Blynyddoedd Cynnar, Addysgu- neu Radd Anrhydedd yn y Blynyddoedd Cynnar.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost