Astudiaethau ffilm Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA71323
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Cwrs llinol Safon Uwch 2 flynedd o hyd – bydd pob asesiad ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Wrth wraidd yr holl astudiaethau ffilm mae cydnabyddiaeth bod ffilmiau'n cael eu gwneud: cânt eu hadeiladu gan ddefnyddio ystod o elfennau - sinematograffi, mise-en- scène, sain, golygu a pherfformio (elfennau allweddol ffurf ffilm) - sy'n cael eu trefnu'n strwythurol o ran naratif ac yn aml genre (elfennau strwythurol ffurf ffilm). Mae’r modd y
mae gwneuthurwyr ffilm yn defnyddio'r elfennau hyn, yn aml mewn ffyrdd cymhleth a hynod artistig, yn rhan fawr o'r hyn sy'n astudiaeth ffurfiol o ffilmiau.

Yr un mor bwysig mae sut mae gwylwyr yn ymateb I'r gwaith y mae gwneuthurwyr ffilm yn ei greu a sut mae dysgwyr yn dehongli'r ffilmiau gan gyfeirio at ymateb gwylwyr, cyd-destunau perthnasol, dulliau beirniadol a dadleuon. Yn ei dro, mae'r astudiaethau ffurfiol hyn yn cael effaith uniongyrchol ar waith dysgwyr eu hunain fel gwneuthurwyr ffilm
ac ysgrifenwyr sgrin.

Rhan 1: Amrywiaethau ffilmiau a gwneud ffilmiau

● Adran A: Hollywood 1930-1990 (astudiaeth gymharol)
● Adran B: Ffilmiau o America ers 2005 (astudio dwy ffilm)
● Adran C: Ffilmiau o Brydain ers 1995 (astudio dwy ffilm)

Rhan 2: Safbwyntiau gwneud ffilmiau byd-eang

● Adran A: Ffilmiau byd-eang (astudio dwy ffilm)
● Adran B: Ffilmiau dogfen
● Adran C: Symudiadau ffilmiau – Sinema di-sain
● Adran D: Symudiadau ffilmiau – Ffilmiau arbrofol (1960-2000)

Rhan 3: Cynhyrchu

Bydd y cynhyrchiad ar ffurf naill ai sgript ffilm yn y flwyddyn gyntaf a ffilm fer yn yr ail flwyddyn. Rhaid i ddysgwyr hefyd ddarparu dadansoddiad gwerthusol o'r cynhyrchiad, sy'n dadansoddi ac yn gwerthuso'r cynhyrchiad mewn perthynas â ffilmiau eraill a gynhyrchwyd yn broffesiynol.
Rhan 1: Amrywiaethau ffilmiau a gwneud ffilmiau
Arholiad ysgrifenedig: 2½ awr
35% o’r cymhwyster

Rhan 2: Safbwyntiau gwneud ffilmiau byd-eang
Arholiad ysgrifenedig: 2½ awr
35% o’r cymhwyster

Rhan 3: Cynhyrchu
Asesiad di-arholiad
30% o’r cymhwyster
5 TGAU gradd C/4 neu uwch.
Nid oes angen profiad blaenorol. Ond os astudiwyd TGAU Astudiaethau Ffilm, bydd gofyn am radd C/4 neu uwch.
Nid oes lefel UG ar gael. Dyma gwrs llinol Safon Uwch 2 flynedd o hyd.
Byddwn yn ystyried eich cais petaech wedi cael, neu’n rhagweld y byddwch yn cael, gradd D/3 mewn TGAU Mathemateg neu Saesneg (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae Astudiaethau Ffilm Safon Uwch yn darparu dilyniant addas i ystod o gyrsiau gradd addysg uwch a galwedigaethol neu i gyflogaeth. Gallai hyn gynnwys gyrfaoedd yn y diwydiant ffilm, yn ogystal â’r rhai yn y byd academaidd a chyhoeddi. I’r rhai nad ydynt am symud ymlaen ymhellach gydag Astudiaethau Ffilm, mae’r fanyleb hon hefyd yn darparu cwrs astudio cydlynol, gafaelgar a gwerthfawr yn ddiwylliannol.

Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost