Llwybr (Interniaethau â Chymorth) - Llwybr 4

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01362
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn o hyd. Mae’r cwrs yn un llawn amser, tridiau’r wythnos.
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn rhaglen interniaeth llawn amser blwyddyn o hyd, sy'n cefnogi dysgwyr i gael gwaith gyda phrofiad gwaith mewn lleoliadau interniaeth bywyd go iawn. Bydd dysgwyr yn mynychu dau ddiwrnod yn y gweithle ac un diwrnod yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu ffurfiol.

Mae'r cwrs ar gael ar ddau safle Iâl a Glannau Dyfrdwy/Llaneurgain, sy'n caniatáu I ddysgwyr gael mynediad I safle a chyfleoedd cyflogaeth posibl sydd agosaf at ble maent yn byw.
Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau personol. Mae myfyrwyr yn derbyn cymorth 1:1 rheolaidd gan eu tiwtor personol a’r swyddog pontio er mwyn adolygu eu cynnydd a’u cefnogaeth o fewn y lleoliad. Mae targedau unigol yn sicrhau cynnydd tuag at gyrchfannau hirdymor. Gellir cyflawni cymhwyster neu unedau perthnasol hefyd tra byddant ar y rhaglen.
Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr ag anableddau dysgu a/neu anawsterau y mae angen cymorth arnynt i gael gwaith cyflogedig.

Mae’n addas i ddysgwyr sy’n symud ymlaen o Raglenni Sgiliau Bywyd lefel Mynediad.

Mae Porth i Gyflogaeth wedi’i leoli yn yr amgylchedd gwaith lle mae’r rhan fwyaf o’r rhaglen yn brofiad gwaith ymarferol.

Mae myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad cychwynnol a sesiwn ymsefydlu gynhwysfawr cyn symud ymlaen i raglen profiad gwaith unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau a’u huchelgeisiau penodol.

Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n manylu ar eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i leoliadau gwaith.
Deilliant dymunol yr interniaeth yw gwaith cyflogedig.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost