Archwilio gwaith - Llwybr 3

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01360
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn.Mae’n gwrs llawn amser, 3 diwrnod yr wythnos.Y diwrnodau yn y coleg yw: Dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Lluniwyd cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol i gynorthwyo dysgwyr sydd ag anableddau a/neu anawsterau datblygu ac ehangu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs Lefel Mynediad hwn yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy’n cynnwys: Sgiliau Gweithredol, Sgiliau Bywyd a Byw, Sgiliau Galwedigaethol ac Iechyd a Llesiant.

Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen i amserlen unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau penodol. Byddwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddewis o ystod o weithgareddau galwedigaethol gan gynnwys: Gofal Anifeiliaid, Ceffylau, Sgiliau Gweithdy, Crefftau Manwerthu ac Adfer Dodrefn, Glanhau Ceir, Gwallt a Harddwch, Adeiladu, Lletygarwch a / neu Arlwyo, Busnes a Gweinyddu a Manwerthu.
Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth un i un yn rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrchfannau tymor hir.
Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at Mynediad 2.
Bwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr gydag anawsterau dysgu cymedrol cymhleth a/neu anawsterau cymdeithasol ac ymddygiadol.

Byddwn yn ystyried pob cais yn unigol a bydd unrhyw gynnig yn dibynnu ar gyfweliad ac ystod o dystiolaeth atodol, gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesu anghenion cymorth. Rydym yn gofyn I bob ymgeisydd ddod I sesiwn rhagflas fel rhan o’r broses ymgeisio, I gadarnhau eu haddasrwydd, eu gallu a’u hanghenion cymorth ychwanegol.
Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn Gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.
Efallai bydd yn bosibl symud ymlaen o’r cwrs hwn i’r rhaglen baratoi ar gyfer gwaith neu raglen alwedigaethol Mynediad 3. Mae’r cwrs hefyd yn cynorthwyo gyda symud ymlaen i ragor o annibyniaeth, byw’n annibynnol a/neu â chymorth, a nifer o gyd-destunau gwaith amrywiol. Lle bo hynny’n briodol, bydd cyfle hefyd i ystyried symud ymlaen i waith â chymorth naill ai’n wirfoddol neu gyda thâl.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost