Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01357 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn. Mae’n gwrs llawn amser, 3 diwrnod yr wythnos. Y diwrnodau yn y coleg yw: Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher |
Adran | Sgiliau Byw’n Annibynnol |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Lluniwyd cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol i gynorthwyo dysgwyr sydd ag anableddau a/neu anawsterau datblygu ac estyn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith. Bydd myfyrwyr ar y cwrs lefel Mynediad hwn yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy’n cynnwys: Sgiliau Gweithredol, Sgiliau Bywyd a Byw, Sgiliau Galwedigaethol, ac Iechyd a Llesiant.
Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen i amserlen unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau penodol. Byddwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddewis o blith ystod o weithgareddau galwedigaethol, gan gynnwys: Gofal Anifeiliaid, Sgiliau Gweithdy, Crefftau Manwerthu ac Adfer Dodrefn, Garddwriaeth, Lletygarwch a / neu Arlwyo a Manwerthu.

Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth un i un yn rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrchfannau tymor hir.
Bwriadwyd y cwrs Mynediad hwn ar gyfer ymgeiswyr ag anawsterau dysgu difrifol neu gymhleth,anawsterau dysgu cymedrol .
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gweithio tuag at Mynediad 1
Byddwn yn ystyried pob cais yn unigol a bydd unrhyw gynnig yn dibynnu ar gyfweliad ac ystod o dystiolaeth atodol, gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesu anghenion cymorth. Rydym yn gofyn i bob ymgeisydd ddod i sesiwn rhagflas fel rhan o’r broses ymgeisio, i gadarnhau eu haddasrwydd, eu gallu a’u hanghenion cymorth ychwanegol.
Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn, Gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Efallai bydd yn bosibl symud ymlaen o’r cwrs hwn i raglen Llwybr 3 Mae’r cwrs hefyd yn cynorthwyo gyda symud ymlaen i ragor o annibyniaeth, byw â chymorth a nifer o gyd-destunau gwaith amrywiol.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.