Lefel 1 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00084
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi’i lunio fel cyflwyniad i'r sectorau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol yn yr unedau gorfodol, a fydd yn eu helpu o ddydd i ddydd. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn chwaraeon egnïol, rolau hyfforddi a ffitrwydd ymarferol gan gynnwys gweithgareddau awyr agored, mewn unedau sy’n benodol i faes.

Mae'r modiwlau yn cynnwys Chwarae Chwaraeon, Cadw'n Heini ac yn Iach, Cymryd Rhan mewn Profion Ffitrwydd, Cynllunio a Chyfeiriannu Llwybr, a Gweithio gydag Eraill. Bydd arbenigwyr y diwydiant yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad o weithio yn y gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ar y rhaglen, gyda phob dysgwr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen er mwyn eu cynorthwyo i lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth ystafell ddosbarth ac ymarferol dan do ac yn yr awyr agored.
Yn ogystal â chael eu monitro a’u herio trwy gydol gwersi, bydd dulliau asesu gwahanol ffurfiol yn cynnwys y canlynol:

Asesiadau ysgrifenedig.
Cyflwyniadau.
Cynllunio a Threfnu.
Arsylwadau.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg

Ar gyfer pob dysgwr sy’n awyddus i symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen – rhaid I chi fod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, bod wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg, ac wedi cyrraedd pob targed yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i gwrs Lefel 2 perthnasol yn yr un maes, Hyfforddeiaeth, Prentisiaeth neu gyflogaeth.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost