main logo

BA mewn Astudiaethau Plentyndod

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51332
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 3 Blynedd1 diwrnod yr wythnos o oriau a addysgir, 9am – 8pm. Diwrnod yr wythnos i’w gadarnhau.Bydd gofyn I fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o leoliad a hunanastudio yn ychwanegol at yr oriau a addysgir.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2023
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Byddwn yn cyflwyno’r rhaglen hon trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb i gyd-fynd â’ch anghenion unigol, yn amodol ar allu gweithi o dan arweiniad a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau eich diogelwch chi a'n staff ni. Byddwn hefyd yn parhau i roi cymorth o bell i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Sylwch, os yw rhesymau diogelwch yn ei hatal rhag trefnu lleoliadau gwaith, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau a fydd yn parhau i ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.

Bydd ein gradd mewn Astudiaethau Plentyndod yn eich galluogi i archwilio ystod amrywiol o feysydd sy'n ganolog i fywydau plant ac yn eich darparu gyda'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen arnoch i weithio mewn ystod o broffesiynau sy'n gysylltiedig â phlant. Pa gyfeiriad bynnag a ddewiswch, bydd y radd Astudiaethau Plentyndod hon o Brifysgol Aberystwyth yn rhoi sylfaen gadarn i chi o'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth, ynghyd â'r sgiliau beirniadol a gwerthusol y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt.

Modiwlau Blwyddyn 1

Polisïau a Materion mewn Addysg
Datblygiad a Dysgu Plant
Sgiliau Allweddol ar gyfer Prifysgol
Chwarae: Theori ac Ymarfer
Datblygiad Iaith
Partneriaethau: Egwyddorion ac Ymarfer

Modiwlau Blwyddyn 2

Seicoleg Meddwl a Dysgu
Gweithio gyda Phlant
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol
Llythrennedd mewn Plant Ifanc
Gwneud Synnwyr o'r Cwricwlwm
Dulliau Ymchwil

Modiwlau Blwyddyn 3

Myfyrio a Gwerthuso Dysgu a Sgiliau yn Feirniadol
Hawliau Plant
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol
Prif Draethawd Hir
Cyflwynir deunydd y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai. Gwneir recordiadau sain o ddarlithoedd fel y gallwch wrando eto ar adeg arholiadau, neu ddal i fyny os ydych yn sâl. Mae siaradwyr gwadd yn ychwanegu at yr amrywiaeth o gyflwyniadau. Asesir modiwlau drwy amrywiaeth o ddulliau a all gynnwys arholiadau, traethodau, prosiectau, ymarferion llyfryddiaethol, gwerthuso adnoddau, posteri a chyflwyniadau. Nid yw arholiadau’n cyfrif am fwy na 50% o’r marciau mewn unrhyw fodiwlau. Yn y drydedd flwyddyn, bydd eich traethawd hir yn caniatáu i chi gynnal eich prosiect ymchwil eich hun yn bwnc o’ch dewis eich hun, o dan arweiniad aelod o staff. Bydd hyn yn golygu astudio yn y llyfrgell, dehongliad beirniadol o ffynonellau, ac ymchwiliad empirig ar raddfa fach. Lle bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu marcio’n electronig a byddwch yn cael adborth a phwyntiau ar gyfer gwella ar gyfer pob aseiniad ac arholiad. Mae cymorth i fyfyrwyr ar gael gan eich Tiwtor Personol eich hun, tiwtoriaid y modiwl a llyfrgellwyr sgiliau academaidd drwy gydol eich astudiaethau.

Mae lleoliad yn elfen ofynnol ym Mlynyddoedd 1 a 2 gan y bydd eich ymarfer yn gysylltiedig â chynnwys modiwlau ac asesiad. Mae rheoliadau Covid ar waith mewn achosion lle mae Covid-19 yn tarfu ar leoliadau.
112-96 Pwynt UCAS

Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Heddlu Uwch ar gyfer y cwrs hwn os ymgymerir â lleoliad.
Mae data’n dangos y bydd astudio Astudiaethau Plentyndod yn Cambria yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt mewn ystod o sectorau perthnasol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr sy’n astudio’r Radd Astudiaethau Plentyndod yng Ngholeg Cambria a/neu Brifysgol Aberystwyth wedi symud yn hyderus i yrfaoedd ym maes addysgu ac addysg (gan gynnwys ADY/AAA), gofal cymdeithasol, nyrsio, therapi lleferydd, gwaith cymdeithasol, llesiant plant, therapi chwarae, y diwydiant hamdden, cyfraith plant, ac ymchwil i blentyndod. Byddwn yn mynd ati i gefnogi ein graddedigion i symud ymlaen i astudio ar lefel TAR Cynradd neu ddilyn gradd Meistr, ac mae’r bartneriaeth agos â Phrifysgol Aberystwyth yn golygu y gall y myfyrwyr hynny sy’n dewis mynd ymlaen i astudio lefel uwch ddod o hyd i lwybrau drwy Brifysgol Aberystwyth hefyd. Bydd y cyfoeth o sgiliau craidd penodol i blentyndod, yn ogystal â sgiliau eraill, mwy generig y byddwch yn eu datblygu yn ystod eich gradd, yn gallu cael eu trosglwyddo’n rhwydd i bron unrhyw swydd gyflogedig raddedig neu broffesiynol. Mae’r adran hefyd yn annog myfyrwyr i chwilio am weithgaredd lleoliadau gwaith a chymorth gyrfaoedd â ffocws i helpu i ddod o hyd i’r cyfle profiad gwaith cywir er mwyn mynd ati i amlinellu cyfeiriad eich gyrfa. Byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o brif ddamcaniaethau dysgu; ymateb yn feirniadol i ddadleuon cyfoes; myfyrio ar eich ymarfer eich hun fel gweithiwr proffesiynol; gwerthuso amcanion ac effaith polisïau cymdeithasol; ac ystyried y pwnc o sawl safbwynt, er enghraifft o safbwyntiau rhywedd a thrawsddiwylliannol.
Ffioedd y cwrs £9000 y flwyddyn

Cod UCAS : X320

Rhaid i’r myfyrwyr dalu am gostau i ac o’r lleoliad gwaith.

Efallai y bydd angen prynu offer a/neu iwnifform ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.

Ar gyfer y rhai sy’n cychwyn ym mis Medi 2022 rydym yn cynnig bwrsari* o £1,000 i holl fyfyrwyr presennol Coleg Cambria sy’n astudio’r cwrs radd hwn.
*Bydd bwrsarïau yn cael eu rhoi i fyfyrwyr mewn dau randal
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?