Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01299
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Digwyddiadau Byw, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Gallwch astudio’r Diploma Lefel 3 hwn un ai dros gyfnod o flwyddyn neu fel Diploma Estynedig dros ddwy flynedd.

Mae’r Diploma mewn Cynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan yn cynnwys y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn theatrau, lleoliadau cerdd, gwyliau, stiwdios teledu a ffilm a rheoli llwyfan, digwyddiadau ac artistiaid.

Byddwch yn dysgu sgiliau yn y meysydd cynhyrchu a rheoli llwyfan, goleuadau llwyfan, sain byw a sain wedi’i recordio, mapio alldaflu sain ac A/V, gwneud propiau, adeiladu golygfaol a gweithrediadau blaen y tŷ.

Bydd y sgiliau hyn yn cael eu meithrin yn alwedigaethol trwy weithio ar gynyrchiadau masnachol go iawn megis perfformiadau theatr a cherddorol a hefyd trwy brosiectau sy'n benodol i safleoedd, gan roi cyfle i chi ddefnyddio’n greadigol y wybodaeth dechnegol a enillwyd trwy astudio’r cwrs.

Mae ffocws ar arferion gweithio safonol y diwydiant a byddwch yn datblygu portffolio o brofiad proffesiynol I'ch galluogi naill ai symud ymlaen I gyflogaeth yn y diwydiant, neu arbenigo ymhellach mewn prifysgol.

Mae'r cwrs hwn yn rhaglen alwedigaethol llawn amser ac mae'n addas ar gyfer ystod o gyrsiau gradd israddedig arbenigol uwch yn genedlaethol, gyda hanes o fyfyrwyr yn llwyddo I fynd i’r brifysgol ac yn uniongyrchol I'r diwydiant.

Mae eich rhaglen dysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau gan gynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo I symud ymlaen at waith neu addysg uwch. Felly, bydd pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi cyfle I chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C/4 I TGAU, oni bai eich bod wedi cyflawni hynny eisoes yn yr ysgol / coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd hefyd yn eich galluogi I symud ymlaen I addysg uwch.
Mae’r cymhwyster UAL yn canolbwyntio ar ystod o unedau meithrin sgiliau, gyda phrosiect mawr terfynol ar ddiwedd pob blwyddyn yn eich maes astudio o’ch dewis. Rhain yw’r unig unedau sy’n cael eu hasesu a’u graddio’n fewnol ac yn allanol. Byddwch yn cael eich asesu ar y ddau bortffolio / gwaith cwrs a’ch cyfraniad ymarferol at gynyrchiadau, prosiectau a digwyddiadau.
Bydd angen 5 neu ragor o TGAU gradd C/4 gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu gwblhau cymhwyster L2 Celfyddydau Creadigol fel y Celfyddydau Perfformio yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Gall y cwrs hwn arwain yn uniongyrchol at yrfa fel Rheolwr Llwyfan, Cydlynydd Digwyddiadau, Dylunydd Goleuo, Dylunydd Sain, Technegydd Theatr, Criw Gŵyl Technegydd Stiwdio Deledu/Ffilm, Rheolwr Cynhyrchu, Gweithredwr Adloniant, Dyluniad Llwyfan, Gwneuthurwr Propiau, Gosodwyr a nifer o swyddi cysylltiedig.

Mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen i weithio ym maes rheoli digwyddiadau neu mewn rolau technegol penodol fel: gweithredu a dylunio goleuadau, fel peirianwyr sain neu reolwyr llwyfan mewn theatrau a lleoliadau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithredu eu busnesau eu hunain neu weithio yn y sectorau teithio a llogi cyfarpar, gan ddarparu’r arbenigedd a’r sgiliau technegol sydd eu hangen i sefydlu digwyddiadau mawr megis gwyliau, digwyddiadau codi arian a digwyddiadau corfforaethol mawr. Mae’r sgiliau arbenigol ac amrywiol a enillir o astudio Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr mewn meysydd cyflogaeth eraill hefyd fel llongau mordeithio, lleoliadau gwyliau, ystafelloedd dianc, amgueddfeydd a pharciau thema, digwyddiadau chwaraeon, arddangosfeydd ac arenâu.

Mae dewisiadau’r Brifysgol yn cynnwys graddau megis Rheoli Llwyfan, Technoleg a Dylunio Goleuadau, Goleuadau Pensaernïol, Astudiaethau Theatr Dechnegol, Peirianneg Drydanol, Peirianneg Darlledu, Cynhyrchu Digwyddiadau Byw a Rheoli Digwyddiadau.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost