main logo

Mathemateg Bellach - UG/Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA62033
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cymwysterau Mathemateg UG a Safon Uwch yn cael eu haddysgu yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio.Mae’r cymhwyster Mathemateg Bellach UG a Safon Uwch yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mathemateg Bellach UG a Safon Uwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws cwestiynau sy'n gofyn am ddefnyddio dadl fathemategol, gwybodaeth a phrawf, datrys problemau, modelu a defnyddio data mewn ystadegau. Byddwch yn dysgu adnabod sut y gellir cynrychioli sefyllfa yn fathemategol a deall y berthynas rhwng problemau ‘byd go iawn’ a modelau mathemategol safonol. Byddwch hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o berthnasedd mathemateg I feysydd astudio eraill, i fyd gwaith ac i gymdeithas yn gyffredinol.

Mae Mathemateg Lefel A yn ategu pynciau Safon Uwch eraill yn dda fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg ac Economeg.

Argymhellir Mathemateg Bellach UG / Safon Uwch ar gyfer mathemategwyr galluog ac mae'n gynyddol opsiwn a ffefrir mewn llawer o brifysgolion I'r rheini sy'n bwriadu astudio pynciau fel Ffiseg, Peirianneg neu Gemeg.
Mathemateg:
Ar lefel UG, mae Uned 1 yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bur; mae Uned 2 yn profi Mathemateg Gymhwysol ac mae ganddi adran yn seiliedig ar Ystadegau ac adran yn seiliedig ar Fecaneg. Mae papur Uned 2 yn 1.75 awr o hyd.
Mae Uned 1 werth 25% ac mae Uned 2 werth 15% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Ar lefel Safon Uwch, mae Unedau 3 a 4 yn cael eu hasesu trwy ddau bapur ysgrifenedig. Mae Uned 3 yn cael ei asesu trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bur; mae Uned 4 yn archwilio Mathemateg Gymhwysol ac mae ganddi adran yn seiliedig ar Ystadegau ac adran yn
seiliedig ar Hafaliadau Differol, Dulliau Rhifiadol a Mecaneg. Mae papur Uned 4 yn 1.75 awr o hyd.
Mae Uned 3 werth 35% ac mae Uned 4 werth 25% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Mathemateg Bellach:
Ar lefel UG, bydd Uned 1 yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 1.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bellach; mae Uned 2 yn profi Ystadegau ac yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 1.5 awr o hyd. Mae Uned 3 yn profi Mecaneg ac yn cael ei asesu trwy bapur ysgrifenedig 1.5 awr o hyd.
Mae Unedau 1, 2 a 3 werth 13 1/3% yr un, a gyda’i gilydd mae werth 40% o’r cymhwyster UG.

Ar lefel Safon Uwch, mae Unedau 4 a 5/6 yn cael eu hasesu trwy ddau bapur ysgrifenedig. Mae Uned 4 yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bur; Mae Uned 5 neu 6 yn archwilio Ystadegau (uned 5) neu Fecaneg (uned 6), bydd ymgeiswyr ond yn sefyll
un o’r papurau hyn, ac mae’n seiliedig ar arholiad 1.75 awr o hyd.
Mae Uned 4 werth 35% ac mae Uned 5/6 werth 25% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Bydd arholiadau ffug mewnol ar ddyddiadau a gyhoeddwyd i ddarparu profiad realistig o sefyll arholiad.
5 TGAU gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg gradd A neu A* / 7-9 Haen Uwch, ynghyd ag A neu A* / 7-9 ychwanegol mewn pwnc cysylltiedig – er enghraifft, Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl, neu Ffiseg.

Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).


Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Mathemateg Safon Uwch yn berthnasol i ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch. Yn ogystal, byddai Mathemateg yn gymhwyster dymunol mewn sawl galwedigaeth; Y Gwasanaeth Sifil, cyllid, bancio, mewn gwaith technegol, cyfrifiadurol, gwyddonol a pheirianyddol, ac mewn sefydliadau
llywodraethol a datblygiadol.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?