main logo

Lefel 1 mewn Busnes, Teithio a Digwyddiadau

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01246
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Teithio a’r Economi Ymwelwyr
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw canolbwyntio ar ennyn diddordeb dysgwyr ac annog eu dealltwriaeth o’r sgiliau, y nodweddion a’r wybodaeth sydd eu hangen ledled y sectorau Busnes a Thwristiaeth. Mae’r cwrs hwn yn addas i bobl ifanc ac oedolion sydd eisiau meithrin y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sectorau hyn, gan feithrin ac ymarfer y sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen.

Wrth gwblhau’r cwrs hwn bydd dysgwyr yn astudio pynciau fel gwasanaethau i gwsmeriaid, menter a’r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu busnes, sut i gynllunio digwyddiadau yn effeithiol (corfforaethol, priodasau, partïon), ffactorau sy’n effeithio ar y sector, pwysigrwydd rheoli cyllidebau a marchnata’n effeithiol. Yn ogystal â hyn, byddwch yn parhau i ddatblygu eich llythrennedd a rhifedd.
Bydd dysgwyr yn cyflawni’r cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a asesir yn fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel siartiau gwybodaeth, taflenni neu asesiadau ysgrifenedig.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, sy’n gorfod bod mewn Saesneg Iaith neu
Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos y
potensial i weithio'n annibynnol ac yn ddiogel mewn lleoliadau.

Yn achos pob dysgwr sy'n awyddus i symud ymlaen i'r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen – mae'n rhaid eich bod wedi ennill eich cymhwyster E3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr
holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas
yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a
fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel
uwch.
Cymhorthydd gwasanaeth i gwsmeriaid, cymhorthydd twristiaeth a hamdden, cymhorthydd asiant teithio, prentis cynllunio digwyddiadau, cynrychiolydd gwyliau
Symud ymlaen i gwrs Lefel 2
Prentisiaeth
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?