main logo

FdA Astudiaethau Plentyndod

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01116
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Gradd Sylfaen (FdA) 2 flynedd, lawn amser gyda’r dewis o astudio blwyddyn ychwanegol i gael BA o FdA perthnasol mewn Astudiaethau Plentyndod, a fydd yn gofyn am drawsgrifiad o fodiwlau a astudiwyd gan y brifysgol berthnasol. Darpariaeth 1 diwrnod o oriau a addysgir yr wythnos 9am – 8pmDiwrnod i’w gadarnhau Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio a lleoliad gwaith yn ychwanegol at yr oriau a addysgir.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2023
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Cyflwynir y rhaglen hon trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb i weddu i'ch anghenion unigol, ar yr amod ein bod yn gallu gweithio o fewn arweiniad a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau eich diogelwch chi a'n staff. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol o bell. Sylwch, lle na ellir cyflawni lleoliadau gwaith am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau cysylltiedig â gwaith mewn ffordd a fydd yn dal i ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.

Bydd y rhaglenni Astudiaethau Plentyndod yn eich tynnu at ddisgyblaethau seicoleg, cymdeithaseg ac addysg.

Yn y ddwy flynedd gyntaf, mae gofyn i chi ymgymryd â lleoliad gwaith mewn lleoliad gofal plant neu addysg, sy’n darparu profiadau ymarferol o amgylcheddau dysgu a gofal yn ogystal ag arsylwi a rhyngweithio â phlant. Mae’r elfen ymarferol hon yn elfen bwysig yn y cwrs, gan ddangos nifer o’r agweddau a drafodir yn y modiwlau, gan gynnwys cynorthwyo ag anawsterau ac anghenion dysgu ychwanegol/anghenion addysgol arbennig, cynllunio a gweithredu dysgu trwy fframweithiau cwricwlwm a strategaethau effeithiol i gyfoethogi profiadau plentyndod.

Bydd cwblhau’r ddwy flynedd gyntaf yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i ennill Gradd Sylfaen. Bydd cwblhau'r Radd Sylfaen yn caniatáu symud ymlaen i'r BA Astudiaethau Plentyndod yn y drydedd flwyddyn.

Modiwlau Blwyddyn 1

Polisïau a Materion mewn Addysg (20 credyd)
Datblygiad a Dysgu Plant (20 credyd)
Sgiliau Allweddol ar gyfer Prifysgol (20 credyd)
Chwarae: Theori ac Arferion (20 credyd)
Datblygiad Iaith (20 credyd)
Partneriaethau: Egwyddorion ac Arferion (20 credyd)

Modiwlau Blwyddyn 2

Seicoleg Meddwl a Dysgu (20 credyd)
Gweithio â Phlant (20 credyd)
Diogelu ac Arferion Proffesiynol (20 credyd)
Llenyddiaeth mewn Plant Ifanc (20 credyd)
Gwneud Synnwyr o’r Cwricwlwm (20 credyd)
Dulliau Ymchwil (20 credyd)
Cyflwynir deunydd y cwrs trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai. Gwneir recordiadau sain o ddarlithoedd fel y gallwch wrando arnynt eto yn eich amser eich hun. Mae siaradwyr gwadd yn ychwanegu at yr amrywiaeth o gyflwyno sesiynau. Asesir modiwlau trwy ystod o ddulliau a all gynnwys arholiadau, traethodau, prosiectau, ymarferion llyfryddol, gwerthuso adnoddau, posteri a chyflwyniadau. Nid yw arholiadau’n cyfrif am fwy na 50% o’r marciau mewn unrhyw fodiwlau. Yn y drydedd flwyddyn, bydd eich traethawd hir yn eich galluogi i gynnal eich prosiect ymchwil eich hun i bwnc o’ch dewis chi, o dan arweiniad aelod o staff. Bydd angen astudiaeth yn y llyfrgell, dehongliad beirniadol o ffynonellau, ac ymchwiliad empirig ar raddfa fach. Mae aseiniadau ysgrifenedig yn cael eu marcio’n electronig a byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau ar gyfer gwella ar gyfer pob aseiniad ac arholiad.

Mae lleoliad yn elfen ofynnol ym Mlynyddoedd 1 a 2 gan y bydd eich ymarfer yn gysylltiedig â chynnwys ac asesiad modiwl. Mae rheoliadau Covid ar waith yn yr achos bod Covid-19 yn tarfu ar leoliadau.
3 cymhwyster Safon Uwch gradd C neu gyfwerth
• 96 pwynt UCAS (Tariff 2017 UCAS)

Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad galwedigaethol sylweddol ond heb y gofyniad pwyntiau UCAS yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae angen gwiriad uwch yr heddlu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr sy’n astudio’r FdA Astudiaethau Plentyndod yng Ngholeg Cambria wedi symud yn hyderus i yrfaoedd ym maes addysg, gofal cymdeithasol, nyrsio, therapi lleferydd, gwaith cymdeithasol, lles plant, therapi chwarae, y diwydiant hamdden, cyfraith plant ac ymchwil plentyndod.
Mae myfyrwyr hefyd wedi cwblhau’r FdA yn llwyddiannus wedi symud ymlaen i’r flwyddyn atodol BA.
Ffioedd y cwrs £9000 y flwyddyn.

Y myfyriwr sydd i dalu am gostau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau gwaith.

Efallai bydd angen prynu cyfarpar a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Darllenwch y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Ar gyfer mis Medi 2022, rydym yn cynnig bwrsari* £1,000 i holl fyfyrwyr presennol Coleg Cambria students sy’n astudio’r cwrs gradd hwn. *Bydd bwrsarïau yn cael eu rhoi mewn dau randaliad, i fyfyrwyr sydd wedi talu eu ffioedd ac a fydd yn ddarostyngedig i amodau.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Sesiwn Holi Ac Ateb Byw Dysgu Yn Gymraeg
13/06/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?