main logo

Lefel 3 Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00498
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs dwy flynedd llawn amser.
Adran
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Gallwch astudio ar gyfer y Diploma naill ai fel Diploma un flwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn. Mae'r cwrs yn heriol, yn werth chweil ac yn bleserus. Mae’n cynnig profiad gwerthfawr ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb brwd a dawn ym maes y pwnc.

Mae’r Diploma Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio wedi ei lunio i roi’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth rydych chi eu hangen i symud ymlaen i astudio ar lefel gradd a gwaith yn sector y celfyddydau perfformio. Mae’n rhoi’r cyfle i’r rhai sydd ȃ diddordebau yn y celfyddydau perfformio i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd gyda strwythur cymhwyster sy’n ysgogol a heriol. Mae hefyd yn darparu cymorth wrth symud o astudio cyffredinol i astudio arbenigol.

Mae’r Diploma a’r Diploma Estynedig yn dysgu trwy brofiad ac arsylwi, arbrofol ac integredig. Mae’n dibynnu ar gymhwyso a throsglwyddo sgiliau cydnabyddedig, wrth werthfawrogi canlyniadau damweiniol a gwreiddiol sy’n gallu digwydd mewn arferion unigol ac arferion cydweithredol, ac adnabod egwyddorion cyffredin a nodweddion arbennig ym maes y celfyddydau perfformio.

Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o unedau amrywiol a byddwch yn datblygu sgiliau trwy ystod o weithgareddau i’ch galluogi i’w cyflawni. Byddwch yn gweithio mewn ystod eang o ddisgyblaethau perfformio ac yn meithrin sgiliau fel dawns, drama, canu, theatr gerdd a choreograffi - yn unigol ac mewn gwaith grŵp. Bydd cyfle i weithio ȃ phobl broffesiynol wrth eu gwaith. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol, gyda chymorth ymweliadau addysgiadol a dosbarthiadau meistr.

Bydd eich rhaglen ddysgu yn cynnwys nifer o gymwysterau, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae Coleg Cambria wedi’i ymrwymo i’ch cynorthwyo i symud ymlaen i waith neu addysg uwch. Felly, mae pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn darparu’r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at safon lefel 2, ac yn ddelfrydol, at radd C/4 TGAU, os na chawsoch chi hynny yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon ar gyfer cael swyddi a’ch galluogi I symud ymlaen I addysg uwch.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 3 Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu
Er mwyn ennill y cymhwyster Diploma (blwyddyn 1) rhaid i chi basio wyth uned yn llwyddiannus. Prosiect creadigol cydweithredol yw uned 8, sy’n eich galluogi i arddangos yr hyn rydych wedi’u dysgu wrth gwblhau’r unedau eraill. Caiff yr uned hon ei raddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth a bydd yn pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.

Er mwyn llwyddo i ennill y cymhwyster Diploma Estynedig (blwyddyn 2), rhaid i chi basio 12 uned yn llwyddiannus gan gynnwys unedau 1-8 o’r Diploma yn ogystal ag Unedau 9-12. Mae uned 12, sy’n brosiect estynedig, yn eich galluogi i arddangos yr hyn rydych wedi’u dysgu wrth gwblhau’r unedau eraill. Caiff yr uned hon ei raddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth a bydd yn pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster ac asesir yn fewnol ac yn allanol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af), neu ar gyfer dysgwyr dilyniant sydd wedi cwblhau cymhwyster L2 Celfyddydau Perfformio yn llwyddiannus

Bydd rhaid i’r holl ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithdy mynediad hanfodol ac mae’n rhaid iddynt ei gwblhau yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi at weithio yn y Diwydiant Celfyddydau Perfformio, gwneud ceisiadau am le mewn prifysgolion ac ysgolion dawns a drama, sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, ar gyrsiau fel cynhyrchu cerddoriaeth, dylunio setiau a theatr, actio, dawnsio, hyrwyddo cerddoriaeth neu theatr dechnegol.
Efallai bydd angen prynu offer a gwisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?