Diploma Sylfaen lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00491
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser i ddechrau, gydag estyniad ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau i’ch paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai.

Mae’r sector gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai yn amrywio ac yn cynnwys gwasanaethau fel (ond nid yn gyfyngedig i) yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y Lluoedd Arfog a Gwasanaeth Carchardai ac ati. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu trefnu a’u hariannu gan y llywodraeth i fod o fudd i gymdeithas.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn ymgymryd â nifer o unedau academaidd fel Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai, Dinasyddiaeth, Arwain a Chyfathrebu, yn ogystal ag unedau ymarferol fel Iechyd a Ffitrwydd yn y Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai.
Byddwn yn defnyddio dulliau asesu amrywiol, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau PowerPoint, arholiadau ffurfiol, chwarae rôl ac asesiadau ymarferol.
Bydd gofyn i chi fod ag o leiaf 5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf)
neu;
Wedi cwblhau cwrs lefel 2 perthnasol ac yn gweithio ar gwrs sy’n gyfwerth â TGAU gradd C/4 mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf).


Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bwriad y Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC Pearson mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai yw cefnogi dilyniant I astudiaeth bellach.

Ei brif nod yw cefnogi dysgwyr ôl-16 sydd eisiau parhau gyda’u haddysg trwy ddysgu cymhwysol, ac sy’n bwriadu symud ymlaen I addysg uwch mewn cwrs gradd berthnasol. Hefyd mae’n helpu dysgwyr I symud ymlaen I gyflogaeth yn y gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost