main logo

BTEC Diploma Sylfaen lefel 3 mewn Chwaraeon

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00490
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser sy’n arwain at ail flwyddyn lle bydd dysgwyr yn cwblhau unedau ychwanegol a chyflawni Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 2 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon.
Adran
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
05 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Cyfuniad o unedau damcaniaethol ac ymarferol, a fydd yn rhoi cyfle i chi ennill y wybodaeth,
y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i lwyddo wrth astudio a gweithio yn y dyfodol.

Blwyddyn 1
● Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Gweithredol
● Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
● Datblygu Sgiliau Hyfforddi
● Datblygu Chwaraeon
● Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
● Anatomi a Ffisioleg

Blwyddyn 2
● Sgiliau Hyfforddi Cymhwysol
● Prosiect Ymchwil mewn Chwaraeon
● Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
● Seicoleg Chwaraeon
● Sgiliau Technegol a Thactegol mewn Chwaraeon
● Cymhwyso Chwaraeon yn Ymarferol

Cewch ragor o gyfleoedd i gael hyfforddiant ac ennill cymwysterau yn ystod y cwrs dwy flynedd.
● Dyfarniadau hyfforddi Lefel 1 cyrff llywodraethu nifer o chwaraeon.
● Dyfarniad Arweinydd Chwaraeon Cymunedol Lefel 2 UK Sports Leaders
● Cymorth Cyntaf
● Diogelu
Mae’r cwrs yn cynnwys unedau wedi eu hasesu’n fewnol. Bydd asesiad ar ffurf aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiad chwaraeon ymarferol, cyflwyno sesiynau hyfforddi a phrofiad gwaith llwyddiannus.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af).

Fel arall, Diploma Lefel 2 mewn pwnc perthnasol gyda TGAU mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af).

Mae cymryd rhan weithredol mewn chwaraeon fel perfformiwr, hyfforddwr neu swyddog y tu allan I oriau coleg yn ofyniad gorfodol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r Diploma Estynedig dwy flynedd, gall dysgwyr symud ymlaen i hybu eu hastudiaeth academaidd yn y brifysgol. Gall y cwrs dwy flynedd ddenu hyd at 168 o bwyntiau UCAS.

Fel arall, gall myfyrwyr ddod o hyd I fynediad uniongyrchol I gyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Sesiwn Holi Ac Ateb Byw Dysgu Yn Gymraeg
13/06/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?