main logo

Diploma Lefel 2 mewn Celf a Dylunio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00443
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Celf a Dylunio wedi’i lunio i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen i astudiaeth bellach a hyfforddiant mewn ystod o bynciau celf a dylunio megis celf gain, ffotograffiaeth, dylunio graffeg, ffasiwn, tecstilau, dylunio cynnyrch ac eraill. Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd ȃ diddordeb mewn celf a dylunio neu bwnc perthnasol, ac sy’n dymuno archwilio ac ymestyn y diddordeb hwn trwy brofiad dysgu llawn amser a throchol.

Bydd y rhaglen dysgu hon yn darparu cyflwyniad i ystod o weithgareddau sy’n hanfodol i ddatblygu a darparu deilliannau celf a dylunio gan gynnwys ymchwilio, datblygu syniadau, defnyddio sgiliau technegol a gwerthuso. Mae’n rhoi’r cyfle i chi archwilio’r deunyddiau, y dulliau a’r prosesau sy’n cynorthwyo gweithgareddau celf a dylunio a dechrau meithrin sgiliau technegol cysylltiedig. Bydd yn eich paratoi at astudiaeth bellach ar Lefel 3 a gyrfa mewn Celf a Dylunio.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys nifer o unedau Celf a Dylunio amrywiol a byddwch yn meithrin sgiliau trwy ddilyn gweithgareddau gwahanol a fydd yn eich galluogi i gyflawni. Byddwch yn cael profiad o weithio mewn 2D a 3D, fel arlunio o arsylwi, paentio, tecstilau, CAD, ffotograffiaeth, gwneud printiau a serameg. Bydd cyfleoedd i weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr wrth eu gwaith. Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio ȃ phobl broffesiynol wrth eu gwaith. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol gyda chymorth ymweliadau addysgol.

Bydd eich rhaglen ddysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo i symud ymlaen at waith neu addysg uwch. Felly, bydd pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi cyfle i chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C ar lefel TGAU, oni bai eich bod wedi cyflawni hynny eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd hefyd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch
Mae’r holl waith asesu drwy waith cwrs a thrwy gwblhau prosiectau a phortffolios

Cam 1
Mis Medi tan fis Tachwedd
Byddwch yn archwilio i holl feysydd y diwydiannau creadigol drwy gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol, byddwch yn dysgu ystod o sgiliau a thechnegau, yn ogystal â sut i ymchwilio’n effeithiol a chyflwyno gwaith mewn portffolios.

Cam 2
Mis Tachwedd tan fis Chwefror
Byddwch yn cwblhau prosiect 2D, prosiect 3D a phrosiect 4D.
Bydd y prosiectau hyn yn eich addysgu sut i gynllunio a chynnal prosiect celf a dylunio llwyddiannus, gan wella eich sgiliau a’ch paratoi ar gyfer y FMP


Cam 3
Mis Mawrth tan fis Mehefin
Byddwch yn dewis llwybr a chynllun arbenigol (gyda chymorth eich tiwtoriaid) ac yn cwblhau eich prosiect eich hun, gan ddilyn thema benodol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch tiwtor pwnc penodol i ddatblygu eich syniadau. Bydd y prosiect yn cael ei raddio gyda Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth, ac yn rhoi’r radd derfynol i chi. Bydd yn cael ei asesu’n fewnol ac yn allanol.
4 TGAU ar raddau D/3 neu uwch gan gynnwys pwnc cysylltiedig â Chelf a Dylunio ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf), neu I fyfyrwyr dilyniant gwblhau Lefel 1 Celf, Dylunio a’r Cyfryngau yn llwyddiannus ac argymhelliad gan diwtoriaid y cwrs

Bydd yr holl ymgeiswyr yn ymgymryd â phrosiect mynediad, lle bydd rhaid iddynt ei gwblhau a llwyddo ynddo.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill llear gwrs lefel uwch.
Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 2 ac mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer gweithio yn y Diwydiannau Creadigol. Os ydych chi am symud ymlaen gyda’ch astudiaethau gallwch ddilyn cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc tebyg fel Celf a Dylunio neu’r Cyfryngau Creadigol.
Efallai bydd angen prynu offer a / neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?