main logo

Cymdeithaseg UG/Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01204
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Addysgir y cymhwyster UG ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.Addysgir y cymhwyster Safon Uwch yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Cymdeithaseg yn bwnc poblogaidd a fwynheir yn fawr gan fod myfyrwyr yn gallu ei ystyried yn berthnasol I'w bywydau ac mae’n borth i lawer o yrfaoedd proffesiynol diddorol. Mae’r gwersi’n cynnwys ystod eang o ddulliau addysgu, ond y rhai mwyaf poblogaidd y'r trafodaethau bywiog y gall y cynnwys eu hysgogi.

Anogir myfyrwyr i ddadansoddi, asesu a gwerthuso ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan feithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy. Maent yn cael eu hannog i ddysgu’n annibynnol, ac mae’r holl fyfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i fagu agwedd uchelgeisiol er mwyn gwneud y mwyaf o'u potensial. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc, ond mae diddordeb yn ac ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes yn gymorth mawr.

Mae Cymdeithaseg yn defnyddio theorïau a chysyniadau i archwilio materion a themâu megis: Diwylliant, Diwylliant Ieuenctid, Addysg, Cymdeithaseg y Byd, Anghydraddoldeb
(Rhywedd, dosbarth, ethnigrwydd, oedran) a Dulliau Ymchwil.

Mae’r cwrs yn heriol, ac mae’n ofynnol meddu ar sgiliau llythrennedd ar gyfer llunio traethodau, a sgiliau dadansoddi a gwerthuso er mwyn ymchwilio testunau ac astudiaethau methodolegol.
Bydd yr asesiadau mewnol yn defnyddio amrywiaeth o fformatau i alluogi myfyrwyr gael darlun clir o’u cynnydd a’r camau gweithredu i wella. Bydd ffug arholiadau mewnol yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr a chynhelir arholiadau allanol ym mis Mai (ar gyfer UG) a Mehefin ar gyfer (Safon Uwch).

Mae’r cwrs Cymdeithaseg UG/Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC:

UNED 1 UG: CAFFAEL DIWYLLIANT (Arholiad ysgrifenedig: 1:15 awr).
Adran A – Un cwestiwn strwythuredig ar y cysyniadau a’r prosesau allweddol o ran trosglwyddo diwylliannol, cymdeithasoli a chaffael hunaniaeth.
Adran B – Diwylliant Ieuenctid yn cynnwys cwestiwn gorfodol a dewis rhwng dau gwestiwn traethawd.

UNED 2 UG: DEALL CYMDEITHAS A DULLIAU YMCHWILIAD CYMDEITHASOL
(Arholiad ysgrifenedig: 2 awr).
Adran A – Dulliau Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Deall Cymdeithas: Addysg

UNED 3 SAFON UWCH: PŴER A RHEOLAETH (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr).
Mae’r cwestiynau yn yr adran hon ar thema Cymdeithaseg y Byd.

UNED 4 SAFON UWCH: ANGHYDRADDOLDEB CYMDEITHASOL A DULLIAU
CYMHWYSO YMCHWILIO CYMDEITHASEGOL (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 15
munud).
Adran A – Dulliau Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Mae’r cwestiynau yn yr adran hon ar thema gwahaniaethu a haenau cymdeithas.
5 TGAU gradd C neu uwch

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond os yw TGAU Cymdeithaseg, mae gradd B/6 neu uwch yn ofynnol Iaith Saesneg ar radd B/6, neu B/6 mewn pwnc sy’n seiliedig ar lythrennedd fel Hanes, Llenyddiaeth Saesneg neu Astudiaethau Crefyddol. Pe bai ymgeisydd Safon Uwch wedi cael gradd D/3, neu ragweld hynny, naill ai mewn TGAU Mathemateg neu Saesneg (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall) yna bydd eich cais yn cael
ei ystyried.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Derbynnir Cymdeithaseg Safon Uwch fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i’r holl sefydliadau Addysg Uwch ac mae cyflogwyr ym mhob proffesiwn yn gwerthfawrogi ymgeiswyr gyda chymwysterau Cymdeithaseg.

Oherwydd yr ystod amrywiol o sgiliau sydd ganddynt, mae rhai o’n myfyrwyr mwyaf llwyddiannus wedi mynd yn eu blaenau i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion grŵp Russell ac i yrfaoedd fel darlithio mewn prifysgol, newyddiaduraeth, gwaith cymdeithasol, meddygaeth, yr heddlu a’r gyfraith.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?