main logo

Ffiseg UG/Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09154
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Caiff y cymhwyster UG ei addysgu yn y flwyddyn astudio gyntaf.Caiff y cymhwyster Safon Uwch ei addysgu yn ystod yr ail flwyddyn astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Rydym yn dilyn maes llafur UG Ffiseg CBAC yng Ngholeg Cambria.
Mae’n cynnwys dwy uned theori sy'n cael eu harholi ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Mae tair uned ychwanegol yn cael eu hastudio gan y myfyrwyr hynny sy'n dymuno ennill cymhwyster Safon Uwch llawn yn ail flwyddyn y cwrs. Mae un o unedau’r ail flwyddyn yn arholiad ymarferol.
Dyma grynodeb byr o’r cwrs isod:

Uned 1 (Mudiant, Egni a Mater): Mae hyn yn cynnwys y pynciau Ffiseg sylfaenol, Cinemateg, Dynameg, Cysyniadau egni, Solidau dan ddiriant, defnyddio pelydriad i ymchwilio i sêr, Gronynnau ac adeiledd niwclear.

Uned 2 (Trydan a Golau): Mae hyn yn cynnwys y pynciau: Dargludiad trydan, Gwrthiant, Cylchedau CU, Natur tonnau, Priodweddau tonnau, Plygiant golau, Ffotonau a Laserau

Uned 3 (Osgiliadau a Niwclysau): Mae hyn yn cynnwys y pynciau: Mudiant cylchol, Dirgryniadau, Damcaniaeth ginetig, Ffiseg thermol, Dadfeiliad niwclear ac Egni niwclear.

Uned 4 (Meysydd ac Opsiynau): Mae hyn yn cynnwys y pynciau: Cynhwysiant, Meysydd grym electrostatig a meysydd disgyrchiant, Orbitau a'r bydysawd ehangach, Meysydd magnetig ac Anwythiad electromagnetig.
Bydd angen astudio un pwnc dewisol o’r canlynol: Ceryntau eiledol, Ffiseg feddygol, Ffiseg Chwaraeon, egni a’r amgylchedd. SYLWCH: Bydd yr uned ddewisol yn dibynnu a fydd y cyfarpar ymarferol ac adnoddau eraill ar gael.

Uned 5 yw’r arholiad ymarferol. Mae’n cynnwys dau brawf sy’n cael eu marcio’n allanol gan CBAC; Tasg Arbrofi, sy'n 1.5 awr o hyd, a thasg Dadansoddi Data, sy’n 1 awr o hyd. Byddwch yn sefyll y profion hyn yn nhymor y gwanwyn y flwyddyn U2.
Mae Unedau 1 a 2 yn cael eu hasesu trwy bapur ysgrifenedig 1½ awr gyda chwestiynau a fydd yn ymwneud â phrofiad ymarferol. Bydd y ddwy uned yn cyfrannu’n gyfartal i’r cymhwyster UG a gyda’i gilydd yn ffurfio 40% o’r cymhwyster safon uwch llawn.

Caiff unedau 3 a 4 eu hasesu trwy bapurau ysgrifenedig. Mae papur uned 3 yn 2.25 awr sy’n cynnwys cwestiwn darllen a deall. Caiff uned 4 ei asesu trwy bapur 2 awr o hyd.

Yn y papurau ar gyfer unedau 1-4 bydd cwestiynau’n seiliedig ar waith ymarferol penodol a wnaed trwy gydol y cwrs.
Mae Uned 5 yn arholiad ymarferol ar ddechrau tymor yr Haf sy’n ffurfio 10% o’r cymhwyster Safon uwch.

Byddwn yn gosod ffug arholiadau mewnol hefyd ar ddyddiadau i’w cyhoeddi i roi profiad arholiad realistig i fyfyrwyr.
5 TGAU gradd C/4 neu Uwch
Gradd B/6 mewn Gwyddoniaeth a Gradd B/6 mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol neu Radd B/6 mewn Bioleg (pob un yn HAEN UWCH)
Gradd B/6 neu uwch mewn Mathemateg neu Rifedd Mathemateg (Haen Uwch)
Sylwer: Mae angen gradd A/7 mewn TGAU Mathemateg os nad ydych yn astudio Mathemateg UG.
Dylid ystyried astudio Mathemateg UG.
Dylai myfyrwyr gyda gradd C/4 yn y gwyddoniaethau drafod darpariaeth lefel 3 arall gyda’r Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth

Sylwer: lle nad oedd dewisiadau TGAU Gwyddoniaeth ar gael, derbynnir Dyfarniad Cyntaf BTEC NQF mewn Egwyddorion Gwyddoniaeth Gymhwysol a Dyfarniad Cyntaf mewn Cymhwyso Gwyddoniaeth Gymhwysol ar lefel Teilyngdod, gyda Rhagoriaeth yn yr unedau a asesir yn allanol (1 ac 8) gyda’r radd B/6 mewn TGAU Mathemateg a nodir. Byddai angen gradd B/6 mewn 2 TGAU arall ar gyfer ymgeiswyr Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC.

Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Ffisegwyr yn bobl amryddawn iawn ac mae ganddynt ystod eang o sgiliau. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth uchel iawn ar gymwysterau Ffiseg ac, o ganlyniad i hynny, trwy astudio Ffiseg UG / Safon Uwch, bydd cyfle i fyfyrwyr Ffiseg fynd ymlaen i nifer rhyfeddol o swyddi amrywiol.

Dylid nodi bod cael cymhwyster Ffiseg Safon Uwch yn hanfodol ar gyfer symud ymlaen I rai cyrsiau prifysgol (fel pob math o gyrsiau peirianneg) yn ogystal â bod yn bwnc hanfodol I fyfyrwyr sydd am ddechrau ar gyrsiau prentisiaeth israddedig, fel yr hyn a gynigir gan y cyflogwr lleol Airbus.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?