main logo

Dylunio Cynnyrch UG/Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09152
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cymhwyster Safon UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf (40% o’r cwrs)Mae’ cymhwyster Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn (60% o’r cwrs)
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Dylunio Cynnyrch yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i chi ganfod a datrys problemau go iawn trwy ddylunio a chreu cynhyrchion mewn ystod eang o gyd destunau.
Mae Dylunio Cynnyrch yn datblygu eich sgiliau rhyngddisgyblaethol a’ch gallu i ddefnyddio eich dychymyg i feddwl yn arloesol, yn greadigol ac yn annibynnol.

Byddwch yn dylunio ac yn creu cynhyrchion gan ddefnyddio sgiliau a deunyddiau gwahanol. Gall hyn cynnwys datrys problem go iawn rydych chi wedi ei chanfod, dadansoddi ac ymchwilio. Byddwch yn dylunio ac yn modelu eich syniadau a chynhyrchu prototeip a fydd yn cael ei brofi a’i werthuso wedi i chi ei gwblhau.

Byddwch yn defnyddio offer peirianyddol ac offer a llaw i ddylunio a chynhyrchu eich cynnyrch. Gellid defnyddio CAD/CAM i fodelu a chynhyrchu rhannau o’ch prototeip.
Safon UG

DT1 20% 2 awr

Papur Arholiad: Bydd y papur hwn yn cynnwys dwy ran a fydd yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth yr ymgeiswyr o gynnwys y pwnc ar gyfer un maes penodol a restrir o dan 4.1.1 Dylunio ac arloesedd; 4.1.2 Dadansoddi cynnyrch; 4.2.1 Deunyddiau a chydrannau; 4.2.2 Arfer diwydiannol a masnachol. Mae cwestiwn rhan A yn gofyn am atebion byr; mae cwestiynau rhan B yn gofyn am ateb ar ffurf traethawd agored. Mae’r rhan hon yn cael ei hasesu’n allanol gan CBAC.

DT2 20% (oddeutu 40 awr)

Bydd ymgeiswyr yn cyflwyno un dasg dylunio a chreu a fydd yn bodloni meini prawf yr asesiad Safon UG. Mae’r rhan hon yn cael ei marcio gan y ganolfan a’i chymedroli gan CBAC.

Safon Uwch
DT3 30% 2 awr a ½
Papur Arholiad: Mae’r arholiad hwn yn cynnwys tair rhan ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth yr ymgeiswyr o gynnwys y pwnc cyfan ar gyfer un maes penodol. Mae Rhan A a B yn gofyn am atebion byr ac mae Rhan C yn gofyn am atebion ar ffurf traethawd agored gan gyfeirio at feini prawf y pwnc yn benodol a restrir o dan
: 4.1.1 Dylunio ac arloesedd; 4.1.2 Dadansoddi cynnyrch; 4.1.3 Cyfrifoldeb dynol; 4.1.4 Rhyngweithio cyhoeddus; 4.2.1 Deunyddiau a chydrannau; 4.2.2 Arfer diwydiannol a masnachol. 4.2.3 Prosesau; 4.2.4 Systemau cynhyrchu a rheoli. Mae’r rhan hon yn cael ei hasesu’n allanol gan CBAC.

DT4 30% (oddeutu 60 awr)
Bydd ymgeiswyr Prosiect Mawr yn ymgymryd ag un prosiect sylweddol. Bob blwyddyn bydd CBAC yn gosod wyth thema ar gyfer y prosiect, er mai croeso i ymgeiswyr cyflwyno syniadau eu hunain i’w cymeradwyo. Mae’r prosiect yn gofyn i ymgeiswyr dangos integreiddio sgiliau dylunio a chreu a gwybodaeth a dealltwriaeth. Bydd ymgeiswyr yn cyflwyno prosiect mawr a fydd yn bodloni’r meini prawf asesiad Safon Uwch.
5 TGAU gradd C/4 neu Uwch.
Mae’n hanfodol eich bod wedi astudio TGAU Dylunio a Thechnoleg, ac wedi cael gradd B/6.
Ni fyddwn yn derbyn BTEC Peirianneg / Technoleg Bwyd

Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Dylunio diwydiannol
Dylunio dodrefn
Ergonomeg
Addysgu/ Darlithio
Dylunio cerbydau modur
Crefftwr dylunio
Dylunio arddangosfa
Dylunio propiau/set
Dylunydd hunangyflogedig
Efallai bydd rhaid i chi brynu gwisg ac/neu offer ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer sydd wedi’i hatodi i wybod rhagor.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?