main logo

Astudiaethau Drama a Theatr UG/Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09141
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Caiff y cymhwyster UG ei addysgu yn y flwyddyn astudio gyntaf.Caiff y cymhwyster Safon Uwch ei addysgu yn ystod yr ail flwyddyn astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs UG/Safon Uwch yn rhaglen astudio heriol, gwerth chweil a dymunol, ac mae'n cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd a dawn yn y maes pwnc hwn.

Mae Astudiaethau Drama a Theatr UG a Safon Uwch yn cynnig cyfle i ddod i ddeall maes y pwnc yn well - yn ymarferol ac ar lefel deallusol yn ogystal â meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu a chyflwyno.

Ar lefel UG, byddwch yn deall ac yn dadansoddi perfformiadau byw, astudio testun gosod a pherfformio darn wedi’i sgriptio neu ddylunio gwisgoedd, goleuadau a setiau.
Ar lefel Safon Uwch, byddwch hefyd yn deall a dadansoddi perfformiadau byw. Byddwch hefyd yn astudio dau destun gosod gan ddadansoddi ac edrych arnyn nhw o safbwynt y cyfarwyddwr, y perfformiwr a’r dylunydd.

Os fyddwch chi’n gwneud yr elfen berfformio, byddwch hefyd yn dyfeisio darn o ddrama wreiddiol yn ogystal â pherfformio testun penodol. Os ydy hi’n fwy dymunol i chi fod tu ôl I'r llenni, gallwch ddewis yr elfen ddylunio a threfnu'r gwisgoedd, y goleuadau neu ddylunio’r llwyfan ar gyfer y perfformiadau hyn. Bydd gofyn i chi fynychu perfformiadau
theatr proffesiynol yn rheolaidd.
Ar lefel UG
Uned 1 – Mae Gweithdy Theatr yn asesiad ymarferol di-arholiad sy’n cael ei asesu’n fewnol, a’i safoni’n allanol.
Uned 2 – Mae Testun mewn Theatr yn arholiad ysgrifenedig.

Ar lefel Safon Uwch
Uned 3 – Mae Testun ar Waith yn asesiad ymarferol di-arholiad sy’n cael ei asesu’n allanol gan arholwr ymweliadol.
Uned 4 – Mae Testun mewn Perfformiad yn arholiad ysgrifenedig.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf)a TGAU Llenyddiaeth Saesneg gradd C/4 neu uwch.

Nid oes rhaid cael TGAU Drama nac unrhyw brofiad theatr blaenorol, ond mae’n rhaid i chi fod yn frwdfrydig ynglŷn â’r theatr.

Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau Drama a Theatr mewn prifysgol neu ysgol ddrama a gydnabyddir yn genedlaethol neu gael gwaith yn y Diwydiannau Celfyddydau Perfformio.

Mae’r cwrs wedi bod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer dilyn dewisiadau gyrfaoedd eraill sy’n ymwneud â sgiliau dadansoddol, cyflwyno personol a chyfathrebu.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?