Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA00044 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Caiff y cymhwyster UG ei addysgu yn y flwyddyn astudio gyntaf.Caiff y cymhwyster Safon Uwch yn yr ail flwyddyn astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae cymdeithaseg yn bwnc poblogaidd a difyr oherwydd gall myfyrwyr ei weld yn uniongyrchol berthnasol i’w bywydau nhw, ac yn borth at lawer o yrfaoedd proffesiynol diddorol. Mae gwersi’n cynnwys ystod eang o ddulliau addysgu, ond yn fwyaf poblogaidd mae’r trafodaethau bywiog gall y pwnc hwn eu sbarduno. Anogir myfyrwyr i ddadansoddi, asesu a gwerthuso ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan roi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy iddynt. Anogir dysgu annibynnol, a chynorthwyir pob myfyriwr i feithrin dyheadau i wneud y gorau o’u potensial. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am y pwnc, ond mae’n fantais petai gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes a chyda ymwybyddiaeth ohonynt.
Mae’r cwrs Cymdeithaseg UG/Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC.
Mae Cymdeithaseg yn defnyddio damcaniaethau a chysyniadau cystadleuol i archwilio materion a themâu fel:
UNED 1 UG: MAGU DIWYLLIANT (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud).
Adran A – Un cwestiwn strwythuredig ar gysyniadau a phrosesau allweddol trosglwyddiad diwylliannol, cymdeithasoli a chaffael hunaniaeth.
Adran B – Teulu, gan gynnwys cwestiwn gorfodol a dewis rhwng dau gwestiwn traethawd.
UNED 2 UG: DEALL CYMDEITHAS A DULLIAU YMCHWILIO CYMDEITHASEGOL (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr).
Adran A – Dulliau Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Deall Cymdeithas: Addysg
UNED 3 SAFON UWCH: GRYM A RHEOLI (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr.)
Mae cwestiynau’r adran hon yn trin thema Troseddau/Gwyriad.
UNED 4 SAFON UWCH: ANGHYDRADDOLDEB CYMDEITHASOL A DULLIAU CYMHWYSOL YMCHWILIO CYMDEITHASEGOL (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 15 munud).
Adran A – Dulliau Cymhwysol Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Mae cwestiynau’r adran hon ar thema gwahaniaethu a haenau cymdeithasol.
Mae’r cwrs hwn yn un trwm, sy’n gofyn am sgiliau llythrennedd ar gyfer traethodau, a sgiliau dadansoddi a gwerthuso ar gyfer ymchwilio astudiaethau a thestunau methodolegol.

Bydd asesiadau mewnol yn defnyddio ystod o ddulliau i alluogi myfyrwyr i weld eu cynnydd yn glir a gweithredu er mwyn gwella. Cynhelir ffug arholiadau mewnol ym mis Ionawr/Chwefror. Cynhelir arholiadau allanol ym mis Mai (ar gyfer UG) a mis Mehefin (ar gyfer Safon Uwch).
*Mae’n RHAID i fyfyrwyr gyflawni gradd E o leiaf ar Safon UG er mwyn symud ymlaen at Safon
Uwch.

5 TGAU gradd C/4 neu Uwch.
Nid oes angen profiad blaenorol. Fodd bynnag os astudiwyd TGAU Cymdeithaseg, mae angen gradd B/6 neu uwch.
Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Derbynnir Cymdeithaseg Safon Uwch fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i bob sefydliad Addysg Uwch, ac mae cyflogwyr ym mhob proffesiwn yn gweld gwerth mawr i ymgeiswyr â chymwysterau Cymdeithaseg, oherwydd yr ystod hyblyg o sgiliau mae’r myfyrwyr wedi eu dysgu.
Mae rhai o’n myfyrwyr mwyaf llwyddiannus wedi mynd i astudio yn y prifysgolion gorau megis prifysgolion grŵp Russell, Rhydychen a Chaergrawnt, ac i ddilyn gyrfaoedd megis Addysgu mewn Prifysgolion, Newyddiaduraeth, Meddygaeth, Gwaith Cymdeithasol, yr Heddlu a’r Gyfraith.

Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr atodedig am ragor o wybodaeth.

Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListEin diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.