Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP00259 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. |
Adran | Blodeuwriaeth |
Dyddiad Dechrau | 06 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr creadigol sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn blodeuwriaeth. Mae’r cwrs yn cynnwys ystod o sgiliau blodeuwriaeth sy’n hanfodol i’r diwydiant blodeuwriaeth, gan gynnwys dyluniadau fel clymu, gosod blodau ar gyfer angladdau a phriodasau. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar enwau botanegol blodau a phlanhigion, yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant a pha sefydliadau sy’n cefnogi gwerthwyr blodau heddiw. Fel rhan o’r cwrs bydd y myfyrwyr yn mynd ar deithiau ac ymweliadau addysgol diddorol, a phrofiad gwaith.
Mae myfyrwyr yn cael defnyddio cyfleusterau safon uchel, gweithdai ymarferol gydag offer da ynddynt ac adnoddau helaeth ar-lein. Bydd y myfyrwyr yn cael amrywiaeth eang o flodau ffres, cyffredin ac anarferol, deiliach a manion cyffredin fel rhan o’u cwrs.
Bydd dysgu mor hwyliog â phosibl a byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd a gwaith ymarferol, a byddwch yn defnyddio ystod o dechnoleg dysgu fodern.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r rhaglen a byddwn yn gweithio gyda chi i wella’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â rhoi cyfle i chi ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg , lle bo hynny’n berthnasol.

Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy arholiad ac asesiad aseiniad synoptig dan reolaeth. Byddwch yn cymryd rhan mewn nifer o ffug-arholiadau ac asesiadau trwy gydol y rhaglen, yn ogystal ag asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu chi ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.
Byddwch hefyd yn treulio cyfnod ar leoliad profiad gwaith allanol yn y diwydiant Blodeuwriaeth.
Gall Saesneg a Mathemateg olygu sefyll arholiadau.
Byddwch hefyd yn treulio cyfnod ar leoliad profiad gwaith allanol yn y diwydiant Blodeuwriaeth.
Gall Saesneg a Mathemateg olygu sefyll arholiadau.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth
neu
Diploma Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth (yn amodol ar fodloni’r meini prawf)
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Symud ymlaen i gwrs AB Lefel 3 neu Brentisiaeth Lefel 3 yn y Gwaith mewn Blodeuwriaeth.
Nod y cwrs yw cynorthwyo dysgwyr i gael gwaith fel gwerthwr masnachol blodau mewn busnes Blodeuwriaeth. Dylai myfyrwyr llwyddiannus ystyried gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau dylunio a goruchwylio uwch.

Efallai bydd angen prynu offer a / neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith? Gwnewch gais rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Ffordd y Bers
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Iâl
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Ffordd Y Bers
15/03/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.