main logo

Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00256
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Cerbydau Modur
Dyddiad Dechrau
06 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau mewn gwasanaethu a thrwsio a hefyd mae’n addas i’r rhai sy’n astudio rhaglenni Prentisiaeth Fodern Sylfaen. Byddwch yn dysgu am systemau injan (tanwydd, oeri, tanio, aer ac ecsôst), siasis (llywio, hongiad, breciau a chorff y cerbyd), trawsyriant (clydiwr, y blwch gêr a’r gyriant terfynol), systemau trydanol (batri, tanio, gwefru a’r goleuadau) ac Iechyd a Diogelwch.

Bydd gofyn i fyfyrwyr nad oes ganddynt radd C/4 mewn TGAU Mathemateg a Saesneg fynychu sesiynau I gefnogi hyn yn ogystal â’u rhaglen alwedigaethol.
Bydd gweithgareddau ymarferol yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig. Byddwn yn profi gwybodaeth drwy aseiniadau ysgrifenedig byr a chwestiynau gydag atebion amlddewis. Bydd asesiadau ymarferol yn cael eu cynnal yn ystod gweithgareddau yn y gweithdy.
Cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus.
Cyflogaeth yn y diwydiant Cerbydau Modur
NVQ Lefel 2/3 Technegydd Cerbyd
Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio (Cerbydau Ysgafn)
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?