Astudiaethau Drama a Theatr - UG/Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00071
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Addysgir y cymhwyster Uwch Gyfrannol ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.Addysgir y cymhwyster Safon Uwch yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs UG/Safon Uwch yn rhaglen astudio heriol, gwerth chweil a dymunol, ac mae'n cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd a dawn yn y maes pwnc hwn.


Mae Astudiaethau Drama a Theatr UG a Safon Uwch yn cynnig cyfle i ddod i ddeall maes y pwnc yn well - yn ymarferol ac ar lefel deallusol yn ogystal â meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu a chyflwyno.

Ar lefel UG bydd gofyn i chi ddeall a dadansoddi perfformiadau byw, astudio testun gosod a pherfformio darn wedi’i sgriptio. Ar lefel Safon Uwch byddwch yn astudio dau destun gosod ac yn dyfeisio darn o ddrama wreiddiol. Bydd gofyn i chi fynychu perfformiadau theatr proffesiynol yn rheolaidd.
Ar lefel UG
Uned 1 – Gweithdy theatr sy’n asesiad ymarferol a asesir yn fewnol, a’i gymedroli’n allanol.
Uned 2 – Mae Testun mewn Theatr yn arholiad ysgrifenedig.

Ar lefel Safon Uwch
Uned 3 – Testun mewn Perfformiad sy’n asesiad ymarferol a asesir yn allanol gan arholwr ar ymweliad.
Uned 4 – Mae Testun mewn Perfformiad yn arholiad ysgrifenedig.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a TGAU Llenyddiaeth Saesneg gradd C/4 neu uwch.

Nid oes rhaid cael TGAU Drama nac unrhyw brofiad theatr blaenorol, ond mae’n rhaid i chi fod yn frwdfrydig ynglŷn â’r theatr.

Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau Drama a Theatr yn y brifysgol neu mewn ysgol ddrama a gydnabyddir yn genedlaethol neu gael gwaith yn y diwydiannau Celfyddydau Perfformio.

Mae’r cwrs hefyd wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer dilyn dewisiadau gyrfaoedd eraill sy’n ymwneud â sgiliau dadansoddi, cyflwyno a chyfathrebu.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost