Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP00223 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd.Mae’r rhaglen Mynediad yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy gredydau am fodiwlau y gellir eu hastudio’n amser llawn dros gyfnod o flwyddyn (34 wythnos academaidd) o fis Medi i fis Mehefin. Cynhelir y cwrs o 9.30am – 2.30pm (dros 4 diwrnod fel arfer).Agwedd bwysig o’r rhaglen hon yw eich sgiliau rheoli amser eich hunain ac mae’n hanfodol eich bod yn cynllunio ymlaen llaw o ran dyrannu eich astudiaethau yn y dosbarth ac yn annibynnol. Bydd cael cynllun fel hyn ar waith yn eich cynorthwyo chi a’ch llwyddiant. |
Adran | , Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr I astudio mewn prifysgol. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau gorfodol yn y pynciau arbenigol, ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd.
Mae’r unedau’n cynnwys pynciau fel Anatomi a Ffisioleg, Cymdeithaseg / Seicoleg ac Iechyd. Bydd y sgiliau craidd yn cynnwys sgiliau fel cyfathrebu ac astudio, er enghraifft.
Mae’r unedau’n cynnwys pynciau fel Anatomi a Ffisioleg, Cymdeithaseg / Seicoleg ac Iechyd. Bydd y sgiliau craidd yn cynnwys sgiliau fel cyfathrebu ac astudio, er enghraifft.
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofiad o brofion wedi’u hamseru neu arholiadau. Byddwch yn ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU gradd C/4 Saesneg / Cymraeg (Iaith gyntaf) neu Fathemateg, gydag o leiaf gradd D/3 yn y pwnc arall.
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.
Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn I astudio’r cwrs hwn.
Dylai dysgwyr fod wedi ymrwymo I raglen lawn amser lefel 3 a datblygu eu gallu I astudio. Mae sgiliau TG cryf hefyd yn ddymunol.
Caiff darpar ymgeiswyr eu hannog I gysylltu â phrifysgolion unigol I gael gwybodaeth am ofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Nyrsio yn gofyn am gymwysterau TGAU C/4 neu uwch mewn mathemateg a Saesneg.

Cafodd y cymhwyster Gofal Iechyd ei lunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i astudio cyrsiau gradd a dilyn gyrfaoedd yn y sector gofal, fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol neu Ymarferydd Adran Lawdriniaeth (ODP). Gweithwyr Iechyd Proffesiynol cynghreiriol.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023
17:30
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023
17:30
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.