main logo

Diploma lefel 1 mewn Cerbydau Modur

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00218
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Sgiliau Sylfaen, Cerbydau Modur
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rhai sy’n dymuno bod yn rhan o’r diwydiant gwasanaethu a thrwsio cerbydau modur. Byddwch yn dysgu am wasanaethu a thrwsio sylfaenol. Bydd hyn yn cynnwys egwyddorion Iechyd a Diogelwch; peiriannau a systemau peiriannau (tanwydd, tanio, oeri, pibell fwg ac allyriadau; trosglwyddo a systemau brecio; cynnal a chadw’r llyw, crogiant, olwynion a theiars).

Dyluniwyd y cwrs hwn fel cyflwyniad i’r rhai sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant cerbydau modur.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn bwyslais craidd i’r holl ddysgwyr sy’n dilyn y rhaglen hon, gyda phob dysgwr yn cael y cyfle i ymgeisio am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt trwy gydol eu cyfnod yn dilyn y rhaglen. Byddant yn sicrhau fod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei roi yn ei le cyn i ddysgwyr ddechrau’r cwrs, a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a gyfyd yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i’w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i ateb anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Defnyddir aseiniadau ysgrifenedig byr ac arholiadau cwestiynau ac atebion aml-ddewis i brofi gwybodaeth.

Cynhelir asesiadau ymarferol yn ystod gweithgareddau gweithdy a byddant yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig.
4 TGAU ar radd E/2 neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Gwyddoniaeth a neu gwblhau cymhwyster Lefel Mynediad perthnasol yn llwyddiannus

I ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen neu Fynediad – mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni cymhwyster M3, symud ymlaen yn eich sgiliau Mathemateg a Saesneg, a chyflawni pob targed yn eich Cynllun Dysgu Unigol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
• Prentisiaeth Cerbydau Modur rhan amser rhyddhau am ddiwrnod ar Lefel 2

• Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn (cwrs amser llawn)
Bydd angen prynu offer/gwisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atotedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?