Diploma Lefel 2 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00212
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio wedi’i lunio i roi’r sgiliau, gwybodaeth a’r ddealltwriaeth y byddwch eu hangen i symud ymlaen i astudio ac i hyfforddi ymhellach mewn nifer o bynciau perfformio a chelfyddydau cynhyrchu, gan gynnwys actio, canu, dawnsio, theatr gerdd, dylunio goleuo, dylunio propiau, rheoli llwyfan, cyfarwyddo, ac ati.

Cafodd y cwrs hwn ei ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd ȃ diddordeb yn y Celfyddydau Perfformio ac i baratoi dysgwyr ar gyfer astudio ychwanegol ar Lefel 3 a gyrfa yn y diwydiant Celfyddydau Perfformio.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Byddwch yn cael cyflwyniad i ystod o weithgareddau sy’n hanfodol i ddatblygu a darparu perfformiadau, megis sgiliau actio, lleisiol a symud yn ogystal ag ennill profiad o waith technegol cefn llwyfan. Yn ystod y flwyddyn cewch gyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus. Mae gwaith tîm yn rhan hanfodol o'r cwrs a byddwch yn creu deunyddiau perfformio fel rhan o'r gwaith grŵp. Cewch gyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes ar hyn o bryd a byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol a bydd ymweliadau addysgol yn eich cynorthwyo gyda hynny hefyd.

Bydd eich rhaglen ddysgu yn cynnwys nifer o gymwysterau. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch helpu i symud ymlaen i gyflogaeth neu Addysg Uwch. Felly, mae pob un o’n cyrsiau rhoi cyfle i chi wella eich Saesneg a Mathemateg i lefel 2 ac yn ddelfrydol i TGAU Gradd C/4 os nad ydych eisoes wedi cyflawni hyn yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd hefyd yn eich galluogi I fynd ymlaen I addysg uwch.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i chi lwyddo mewn naw uned. Mae’r uned olaf, cynhyrchu a pherfformio i gynulleidfa, yn eich galluogi chi i ddangos yr holl waith dysgu sydd wedi’i gynnal drwy gwblhau’r unedau eraill.

Caiff yr uned ei graddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth a bydd yn pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster ac mae’n cael ei asesu’n fewnol ac yn allanol.
4 TGAU ar raddau D/3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf) neu gwblhau cymhwyster Lefel 1 mewn Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu yn llwyddiannus ac argymhelliad gan diwtoriaid y cwrs.

Bydd yr holl ymgeiswyr yn ymgymryd â gweithdy/prosiect y mae’n rhaid iddynt ei fynychu a’I gwblhau’n llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Ygorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill llear gwrs lefel uwch.
Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi Diplomâu lefel 2 ac mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol. Os ydych yn dymuno parhau a symud ymlaen gyda’ch astudiaethau, gallwch gymryd cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc tebyg fel Celfyddydau Perfformio neu Ddigwyddiadau Byw.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer sy’n atodedig i gael gwybodaeth bellach.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost