Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA00040 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Caiff y cymhwyster UG ei addysgu yn y flwyddyn astudio gyntaf.Caiff y cymhwyster Safon Uwch ei addysgu yn ystod yr ail flwyddyn astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae arholiadau 2 uned ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (Lefel UG) a 2 arall ar ddiwedd yr ail
flwyddyn (Lefel A2)
Blwyddyn 1 Lefel UG
Uned 1 - Seicoleg: O’r Gorffennol i’r Presennol.
Diben yr uned hon yw rhoi sylfaen gadarn mewn rhai o elfennau craidd sylfaenol seicoleg trwy astudio 5 ymagwedd seicolegol.
Ar gyfer pob un o’r 5 ymagwedd seicolegol (biolegol, seicodeinamig, ymddygiadol, gwybyddol a chadarnhaol), bydd yn angen i ddysgwyr wneud y canlynol:
● gwybod a deall rhagdybiaethau pob ymagwedd
● cymhwyso'r rhagdybiaethau i egluro ffurfio perthynas
● gwybod a deall sut y gellir defnyddio'r ymagwedd mewn therapi (un therapi i bob ymagwedd), a phrif gydrannau'r therapi
● gwerthuso'r therapi (gan gynnwys ei effeithiolrwydd a'i ystyriaethau moesegol)
● gwerthuso'r ymagwedd (gan gynnwys cryfderau, gwendidau a chymhariaeth â'r pedwar dull arall)
● gwybod, deall a llunio barn ar ddarn clasurol o dystiolaeth (gan gynnwys methodoleg, gweithdrefnau, canfyddiadau, casgliadau a materion moesegol a goblygiadau cymdeithasol).
Uned 2 - Seicoleg: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol.
Adran A: Dadleuon Cyfoes.
Mae archwilio pum dadl gyfoes yn rhoi cyfle i ymchwilio’n annibynnol i feysydd y mae seicoleg wedi dylanwadu arnynt. Dylid ystyried dwy ochr y ddadl o safbwynt seicolegol. Gofynnir I ddysgwyr archwilio'r dadleuon gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pum ymagwedd yn Uned 1. Y 5 dadl I'w hymchwilio yw
● Moeseg niwrowyddoniaeth
● Y fam fel y prif ofalwr
● Defnyddio technegau cyflyru i reoli ymddygiad plant
● Dibynadwyedd tystiolaeth llygad-dyst (gan gynnwys plant)
● Rôl seicoleg gadarnhaol yng nghymdeithas heddiw
Adran B: Egwyddorion Ymchwilio.
Ymchwil seicolegol yw canolbwynt yr adran hon, o'r camau cynllunio cychwynnol hyd at gam olaf y dadansoddiad a'r gwerthuso. Er mwyn rhoi cyd-destun priodol ar gyfer yr addysgu, dylid astudio dau ddarn o ymchwil o waith seicolegwyr cymdeithasol a datblygiadol.
● “Social Psychology: Milgram, S. (1963). Behavioural study of Obedience.”
● “Developmental Psychology: Kohlberg, L. (1968). The child as a moral philosopher.”
Adran C: Cymhwyso dulliau ymchwilio i senario anghyfarwydd
Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil i senario ymchwil anghyfarwydd, gan lunio barnau ar fanylion ymchwil
seicolegol.
Blwyddyn 2 Safon Uwch
Uned 3 – Seicoleg: Goblygiadau yn y Byd Go Iawn.
Adran A – Astudio Ymddygiadau.
Archwilio 3 ymddygiad o 6; Ymddygiadau caethiwus, Ymddygiadau ar y sbectrwm awtistiaeth, Ymddygiadau bwlio, Ymddygiadau troseddol, Sgitsoffrenia, Straen.
Adran B – Pynciau Llosg.
Mae hon yn elfen synoptig o'r cwrs; Astudir 5 dadl sy'n rhychwantu ymchwil seicolegol, a bydd gofyn i ddysgwyr ddefnyddio deunydd o bob rhan o'r cwrs i ddadlau. Y dadleuon yw:
● Costau moesegol cynnal ymchwil
● Anifeiliaid nad ydynt yn ddynol
● Statws gwyddonol
● Rhywiaeth
● Rhagfarn ddiwylliannol
Uned 4 – Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol.
Adran A: Ymchwiliad Personol.
Er mwyn sicrhau gwir werthfawrogiad o fethodolegau mewn seicoleg, disgwylir I'r dysgwyr ennill profiad uniongyrchol o ddau ddull ymchwil trwy ddylunio a chynnal dau ymchwiliad yn ystod y flwyddyn. Mae teitlau'r ymchwiliadau hyn yn newid bob blwyddyn, a bydd y bwrdd arholi yn eu
pennu. Bydd gofyn i ddysgwyr ymateb i gwestiynau sy'n ymwneud â'r ymchwiliadau hyn yn yr asesiad. Anogir dysgwyr i ddefnyddio TGCh wrth ymchwilio, dylunio, dadansoddi a chyflwyno eu hymchwiliad.
Adran B: Senarios Anghyfarwydd.
Ail agwedd y gydran hon yw i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil i senarios ymchwil anghyfarwdd, gan lunio barnau ar fanylion ymchwil seicolegol.
Mae'r addysgu wedi'i leoli yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau fel deunydd fideo, ILT, chwilio ar y we, taflenni a thrafodaethau. Mae seicoleg yn ategu'r mwyafrif o bynciau eraill. Gellir ei gyfuno â gwyddorau, mathemateg, astudiaethau cyfrifiadurol, gwyddorau
cymdeithasol eraill neu'r celfyddydau.
Caiff y cwrs ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys deunydd fideo, hyfforddiant dan arweiniad hyfforddwr (ILT), ymchwiliadau rhyngrwyd, taflenni a thrafodaethau. Mae Seicoleg yn fanteisiol ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau eraill. Gellir cyfuno’r cymhwyster â gwyddorau, mathemateg, astudiaethau cyfrifiadurol, gwyddorau cymdeithasol eraill neu'r celfyddydau.

CBAC yw’r Bwrdd Arholi. Bydd gofyn i’r myfyrwyr sefyll arholiad ffug mewnol ar ddiwedd pob uned. Cafodd yr arholiadau ymarfer hyn eu llunio fel eu bod mor debyg i’r arholiadau allanol ag y bo modd.
Arholiadau allanol:
Unedau 1 a 2 (UG) – Bydd Uned 1 a 2 yn cael eu harholi ym mis Mai cyntaf y cwrs – arholiadau 1 awr 30 munud yr un.
Uned 3 (A2) – Ail fis Mehefin y cwrs – arholiad 2 awr 30 munud. Uned 4 (A2) – Ail fis Mehefin y cwrs – arholiad 1 awr 30 munud.

5 TGAU gradd C/4 neu Uwch
Nid oes angen profiad blaenorol. Fodd bynnag os astudiwyd TGAU Seicoleg, mae angen gradd C neu uwch.
Mathemateg neu Rifedd Mathemateg (Haen Ganolradd neu Uwch) a Gwyddoniaeth neu Wyddoniaeth unigol
Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Mae cyflogwyr y rhan fwyaf o feysydd yn cydnabod Seicoleg fel pwnc sy’n paratoi ac yn aeddfedu pobl ar gyfer bron unrhyw fath o waith. Mae lefel UG yn dangos dealltwriaeth o bobl a thrwy gwblhau’r Safon Uwch, dylai’r myfyriwr fod wedi meithrin y gallu i ddadansoddi’n feirniadol wrth ymdrin â ffenomenau dynol. Ar lefel gradd, gall Seicoleg agor y drws i nifer o yrfaoedd, er enghraifft: Personél, Rheoli, Proffesiynau Gofal ac Addysgu. Mae gradd dda yn gallu arwain at fod yn Seicolegydd Siartredig mewn meysydd clinigol, addysgol, diwydiannol, galwedigaethol neu fforensig.
Efallai bydd angen prynu gwisg a/neu offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListEin diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.