Lefel 1 Gwallt a Harddwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00128
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 1 flwyddyn lawn amser.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs yn addas i'r rheini sydd eisiau cyflwyniad i'r sector Gwallt a Harddwch.

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau trin gwallt, harddwch a chyflogadwyedd er mwyn sicrhau bod ganddynt ystod o wybodaeth i'w galluogi i symud ymlaen o fewn y sector. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol i ddatblygu eu sgiliau a'u theori yn y dosbarth i ddatblygu eu gwybodaeth.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ar y rhaglen, gyda phob dysgwr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen er mwyn eu cynorthwyo i lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth ystafell ddosbarth a gweithdai.
Bydd dysgwyr yn cyflawni eu cymhwyster drwy gwblhau gwaith cwrs a asesir yn fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel prosiectau, taflenni neu aseiniadau ysgrifenedig.
Mae 4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) yn hanfodol ar gyfer y rhaglen hon.

Ar gyfer pob dysgwr sy’n awyddus i symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen – rhaid I chi fod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, bod wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg, ac wedi cyrraedd pob targed yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i gwrs Lefel 2, fel y rhai a gynigir mewn Trin Gwallt a Therapi Harddwch, Hyfforddeiaeth, Prentisiaeth neu gyflogaeth lawn amser.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost