Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA18960 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Dyma gymhwyster dysgu yn y gwaith hyblyg, agored a dysgu o bell, sydd fel arfer yn cymryd rhwng 3 a 9 mis i’w gwblhau. |
Adran | Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae |
Dyddiad Dechrau | 01 Aug 2025 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y cymhwyster hwn yw rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr sydd â phrofiad ac sy'n gymwys ar lefel 3 mewn gweithio gyda phlant, o'r egwyddorion a'r damcaniaethau Gwaith Chwarae sy'n sail i ymarfer gwaith chwarae. Nod y cymhwyster hefyd yw ymdrin â sut mae cymhwyso'r egwyddorion a'r damcaniaethau Gwaith Chwarae yn darparu fframwaith sy'n galluogi ac yn cefnogi chwarae plant a'u datblygiad cyffredinol. Mae hefyd yn cynnig cyfle i adfyfyrio ar ymarfer y dysgwr ei hun ac mae'n cefnogi dilyniant i gymwysterau gwaith chwarae sy'n seiliedig ar gymhwysedd.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio, neu sy’n dymuno gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 4 ac 16 oed mewn amgylcheddau chwarae.
Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i ddysgwyr sy’n astudio cymwysterau yn y meysydd canlynol:
• Cynorthwyo ag Addysgu a Dysgu
• Gwaith ieuenctid
• Ysgolion Coedwig

Rhaid i ddysgwyr sy’n dymuno astudio’r cymhwyster hwn fod yn 18 oed o leiaf a rhaid bod ganddynt 2 flynedd o brofiad gofal plant/addysg yn ogystal ag un o’r canlynol:
* cymhwyster lefel 3 llawn ar sail cymhwysedd mewn addysg neu ofal plant neu gymhwyster hanesyddol mewn addysg neu ofal plant yn cynnwys y blynyddoedd cynnar, Gofal Plant, Cefnogi Addysgu a Dysgu, Gwaith Ieuenctid ac Ysgol Goedwig.
* cymhwyster arall Lefel 3 wedi’i reoleiddio yn seiliedig ar gymhwysedd llawn sy’n cydnabod gallu dysgwyr i weithio gyda phlant yn absenoldeb eu rhieni/gofalwyr (e.e. gofal plant preswyl / gofal cymdeithasol gyda phlant / chwaraeon)

Portffolio tystiolaeth sydd wedi’i asesu’n fewnol ac wedi’i sicrhau o ran ansawdd yn allanol.
Bydd gofyn i ddysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth gan ddefnyddio system e-bortffolio lle bydd cymhwysedd a dealltwriaeth alwedigaethol yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf penodol pob un o’r tair uned gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu.
Bydd dulliau asesu yn cynnwys tystiolaeth tystion, goruchwylio, trafod a chwestiynu, dogfennau sy’n gysylltiedig â gwaith ac adroddiadau ysgrifenedig hunan-adfyfyriol.

Gallai dysgwyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen i gyflogaeth yn y meysydd canlynol:
* gweithiwr chwarae
* ymarferydd gwaith chwarae mewn ysbyty
* ymarferydd clwb gwyliau
* ymarferydd clwb ar ôl ysgol
* ymarferydd canolfan antur
* gweithiwr chwarae
* ymarferydd gwaith chwarae mewn ysbyty
* ymarferydd clwb gwyliau
* ymarferydd clwb ar ôl ysgol
* ymarferydd canolfan antur
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Dim data i'w weld
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
City & Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Diploma Lefel 2 NCFE CACHE mewn Gwaith Chwarae
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae