Ffrangeg sgwrsio - Canolradd

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA17271
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 10 wythnos (2 awr yr wythnos); 5.45pm i 7.45pm dydd Llun
Adran
Ieithoedd
Dyddiad Dechrau
15 Sep 2025
Dyddiad gorffen
28 Nov 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau iaith Ffrangeg a bod yn fwy hyderus i siarad ar wyliau? Dewch i ymuno â’r hwyl yng Ngholeg Cambria!

Mae’r cwrs Ffrangeg Canolradd wedi’i ddylunio ar gyfer oedolion sydd â rhywfaint wybodaeth flaenorol o Ffrangeg (hyd yn oed o amser hir yn ôl) ac mae’n ddosbarth sgyrsiol 10 wythnos sy’n eich helpu chi i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando ac ymestyn eich geirfa.

Bob wythnos bydd y sesiynau yn canolbwyntio ar weithgareddau diddorol a fydd yn eich helpu chi i gynyddu eich gwybodaeth ac ennill hyder. Bydd gwersi yn esbonio gramadeg sylfaenol ac yn cynnwys gweithgareddau darllen ac ysgrifennu i gynyddu eich sylfaen wybodaeth. Bydd y themâu a ddewiswyd yn eich helpu chi i ddeall iaith a diwylliant Ffrangeg a fydd yn gwella eich iaith Ffrangeg ar wyliau.

Mae’r pynciau Ffrangeg yn cynnwys:

Cyflwyno’ch hun
Eich teulu
Eich hobïau
Pethau rydych chi’n eu hoffi a ddim yn eu hoffi
Siopa
Ble rydych chi’n byw a lleoedd mewn tref
Cyfarwyddiadau a theithio
Amseroedd bwyta a bwyta allan
Eich trefn bob dydd
Gweithgareddau ar wyliau
Traddodiadau a diwylliant Ffrangeg
Mae angen ychydig o sgiliau Iaith Ffraneg blaenorol
Bydd datblygu sgiliau mewn iaith arall bob amser yn sgil ddefnyddiol a gwerthfawr iawn i’w feddu ar draws llawer o ddiwydiannau a gyrfaoedd.
Am ddim
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?