Defnyddio torrwr prysgoed / strimiwr yn ddiogel

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA16894
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Rhan Amser, 1 diwrnod
Adran
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae torwyr prysgoed / strimwyr yn gallu gweithio’n dda mewn tiroedd / sefyllfaoedd lletchwith, ond mae ganddyn nhw hefyd y potensial i fod yn un o'r peiriannau mwyaf peryglus. Rhaid i weithredwyr fod yn ymwybodol am yr angen i gael dillad amddiffynnol cywir, cynnal a chadw’r peiriant yn gywir, ac arferion gweithdrefnau gweithredu’n ddiogel. Mae’n rhaid talu sylw i ffactorau amgylcheddol yn yr amgylchedd gwaith modern. Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno’r rhesymau dros ystyriaethau diogelwch, arweiniad am y modd gorau o gynnal amgylchedd gwaith diogel, a dealltwriaeth o’r dulliau o gyflymu gwaith.

Amcanion y cynnyrch:

Ar ôl cwblhau Dyfarniad Lantra - Cwrs Hyfforddiant (Gloywi) ar Ddefnyddio a Chynnal a Chadw Trimwyr a Thorwyr Prysgoed byddwch yn gallu:

*Cynhyrchu Asesiad Risg penodol i safle ar gyfer defnyddio strimiwr a thorrwr prysgoed. Nodi’r cyfarpar diogelu personol sydd eu hangen
*Nodi’r nodweddion iechyd a diogelwch angenrheidiol ar strimiwr a thorrwr prysgoed
*Nodi namau ar strimiwr / torrwr prysgoed a chyfarpar torri, a phenderfynu pa rai gall y gweithredwr eu gwella a pha rai sy’n gofyn am sylw gan beiriannydd gwasanaeth.
*Gwneud yr holl waith cynnal a chadw arferol yn gywir yn unol â llyfr cyfarwyddiadau gwneuthurwr y peiriant a / neu'r llyfr gwaith hwn
*Paratoi’r trimiwr / torrwr prysgoed ar gyfer ei ddefnyddio gyda’r cymysgedd cywir o danwydd/olew
*Dechrau’r trimiwr / torrwr prysgoed o ddechrau’n oer a phoeth mewn modd diogel
*Gwneud gwiriadau cyn torri
*Nodi’r peryglon/risgiau posibl wrth gynnal gwaith cynnal a chadw neu dasgau gweithredol
*Cynnal y trimiwr / torrwr prysgoed a blaenau torri mewn cyflwr gweithio diogel ac effeithlon
*Gosod y trimiwr / torrwr prysgoed yn iawn i’w weithredu’n ddiogel a chyfforddus
*Dewis y blaen torri cywir ar gyfer y cyflyrau gweithredu perthnasol
*Gweithredu’r trimiwr / torrwr prysgoed yn ddiogel gan ystyried diogelwch y cyhoedd, eiddo a ffactorau amgylcheddol
*Trefnu’r safle a defnyddio dull systematig o weithio lle bo hynny’n bosibl

Sesiynau’r cwrs:

*Paratoi ar gyfer defnyddio trimiwr a thorrwr prysgoed
*Cynnal a chadw’r trimiwr/torrwr prysgoed
*Cynnal a chadw’r injan
*Defnyddio’r trimiwr/torrwr prysgoed
Hyfforddiant ac Asesu Integredig

Math o asesiad:

Asesiad mewnol a dilysu allanol
Garddwriaeth, Tirlunio a Meysydd Chwaraeon
Torwyr prysgoed, Trimwyr a Llifiau Clirio
£270.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?