L4 VTCT mewn Triniaeth Nodwydd ar y Croen

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA99193
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 12 wythnos
Dydd Llun – 9am – 5pm
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
03 Nov 2025
Dyddiad gorffen
02 Feb 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Cyflogwyr a safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer therapi harddwch sy’n penderfynu ar y cymhwyster ac mae’n cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel ymarferwr nodwyddo croen cwbl fasnachol. Mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni pob uned orfodol, sy’n cynnwys:
• Egwyddorion ac ymarfer therapïau esthetig anfeddygol
• Ymgynghori uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
• Gofal croen uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
• Darparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig

Trwy gydol y cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg berthnasol, ac iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i Lefel 4 mewn therapïau esthetig anfeddygol

Bydd cyfle hefyd i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ymgynghori gyda, a dadansoddi cleientiaid wrth ddarparu triniaeth nodwyddo croen.
Mae disgwyl i ddysgwyr feddu ar gymhwyster therapi harddwch lefel 3 traddodiadol sy’n cynnwys unedau ar driniaeth trydanol i’r wyneb a’r corff a lefel 3 mewn anatomi a ffisioleg.
Er mwyn ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i ddysgwyr lwyddo yn yr asesiadau canlynol:
• Arholiad ymarferol wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n allanol
(50% o radd y cymhwyster)
• Arholiad theori wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n allanol
(50% o radd y cymhwyster)
• Aseiniad/prosiect wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n allanol (ddim yn cyfrannu at y radd derfynol)
• Astudiaethau achos clinigol wedi’u gosod yn allanol a’u marcio’n allanol (ddim yn cyfrannu at y radd derfynol)
Mae’r cymhwyster terfynol wedi’i raddio fel:
•Methu/Llwyddo/Teilyngdod/Rhagoriaeth
Prif nod y cymhwyster yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth mewn diwydiant esthetig anfeddygol uwch trwy ddarparu technegau nodwyddo croen. Yn ogystal gall dysgwyr ddewis meithrin eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach trwy gwblhau cymwysterau arbenigol ychwanegol ar lefel 4 mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol:
• Pilio’r croen
• Amledd radio
• Uwchsain
£375.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

open event transparent graphic

Ymunwch â ni yn ein Digwyddiad Agored Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy heddiw yn...

Days
Hours
Minutes
Seconds