Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
City & Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | MY10226 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Rhan Amser, 9-12 mis |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli, Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Dechrau | 01 Aug 2025 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sydd â phrofiad mewn rolau arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dangos eu cymwyseddau yn eu rolau gwaith ac sy'n bodloni unrhyw ofynion oedran sy’n cael eu gosod gan eu gweithle.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau cymhwyster Lefel 4 Arwain a Rheoli a chael y cyfle i ddefnyddio gwybodaeth damcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol. Yn ogystal, rhaid iddynt fodloni unrhyw ofynion rheoleiddiol ychwanegol.
Mae’r unedau gorfodol yn y cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys arwain a rheoli ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn/plentyn, perfformiad tîm effeithiol, darpariaeth gwasanaeth o safon, ymarfer proffesiynol, diogelu unigolion, ac iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle.
Mae yna hefyd unedau dewisol ar gael i roi amrywiaeth o ddewisiadau i ddysgwyr o fewn y cymhwyster. Ar y cyfan mae’r cwrs ar gyfer unigolion sy’n edrych i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn arwain a rheoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn, rhaid i ddysgwyr fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli yn llwyddiannus. Bydd y sylfaen hon yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i arwain a rheoli’n effeithiol o fewn lleoliad proffesiynol.
Mae Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwrs cynhwysfawr ac mae gofyn i ddysgwyr ddangos eu hyfedredd trwy gyfres o asesiadau. Mae’r asesiadau hyn yn cynnwys arsylwadau o arfer, lle caiff dysgwyr eu gwerthuso ar eu gallu i gymhwyso cysyniadau damcaniaethol mewn senarios bywyd go iawn. Yn ogystal, mae’n ofynnol i ddysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth sy’n arddangos eu cymhwysedd mewn amrywiol agweddau ar arwain a rheoli.
At hynny, rhaid i ddysgwyr gwblhau prosiect busnes sy’n caniatáu iddynt ddangos eu sgiliau meddwl strategol a gwneud penderfyniadau. Mae’r prosiect hwn yn gofyn i ddysgwyr ddadansoddi mater penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a datblygu cynllun cynhwysfawr i fynd i’r afael ag o. Cydran olaf yr asesiad yw trafodaeth broffesiynol, lle disgwylir i ddysgwyr fynegi ac amddiffyn eu hymagweddau at arwain a rheoli yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn gyffredinol, mae’r cwrs wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth gadarn i ddysgwyr o gymhlethdodau’r sector gofal iechyd a rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt arwain a rheoli’n effeithiol. Drwy gwblhau’r asesiadau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn dangos eu parodrwydd i ymgymryd â rolau arwain yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gymhwyso eu gwybodaeth ddamcaniaethol mewn sefyllfaoedd ymarferol. Trwy brofiad ymarferol, byddant yn gallu datblygu eu galluoedd arwain a rheoli mewn senarios byd go iawn.
Mae hefyd yn bwysig i ddysgwyr gwrdd ag unrhyw ofynion rheoleiddio ychwanegol sy’n angenrheidiol ar gyfer y cwrs. Nod y gofynion hyn yw gwneud yn siŵr fod dysgwyr yn cael eu paratoi i ymdopi â’r cyfrifoldebau sy’n berthnasol ar gyfer swyddi arwain a rheoli.
Trwy gwblhau’r cwrs hwn bydd gan ddysgwyr y gallu a’r adnoddau angenrheidiol i ragori mewn swyddi arwain a rheoli. Bydd ganddyn nhw’r hyder a’r gallu i arwain unigolion eraill yn effeithiol ac i wneud penderfyniadau gwybodus mewn lleoliad broffesiynol.

Am gostau cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Dim data i'w weld