Dyfarniad Lefel 3 mewn Sgiliau Weldio MIG/TIG/MMA

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA03261
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Gellir cwblhau’r cwrs un noson yr wythnos dros un flwyddyn academaidd
Adran
Gwneuthuro a Weldio
Dyddiad Dechrau
18 Sep 2025
Dyddiad gorffen
18 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Sgiliau Weldio Uwch yn ddelfrydol os ydych chi’n gweithio yn y diwydiant weldio neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers peth amser a bod gennych chi ddigon o brofiad. Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau er mwyn i chi allu ymgymryd â gwaith weldio cymhleth, codio a rheoli ansawdd. At ddibenion cofrestru mae'n hanfodol bod gennych chi lefel uchel o sgiliau weldio neu wedi cwblhau disgyblaeth weldio lefel 2 yn llwyddiannus yn yr un math o broses weldio.
Mae naw o gymwysterau uned sengl ar gael ar y lefel hon. I ennill un o’r cymwysterau hyn rhaid i chi gwblhau pum aseiniad ymarferol yn llwyddiannus ac un prawf gwybodaeth ar-lein. Rydyn ni’n argymell lleiafswm o 90 awr o waith ymarferol. Gallwch chi gwblhau’r gwaith ymarferol hyn dros gyfnod o flwyddyn academaidd o fis Medi i Fehefin. Yn ogystal â hyn bydd angen 10 awr o waith damcaniaethol ynghyd â gwaith hunan astudio.

Mae’r rhestr lawn o unedau sydd ar gael i’w weld isod.
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Arc Weldio â Fflwcs
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Arc Weldio Metelau â Llaw (MMA) - Peipen
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Arc Weldio Metelau â Llaw (MMA) - Plât
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Metel Nwy Anadweithiol (MIG) - Peipen
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Metel Nwy Anadweithiol (MIG) - Plât
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Ocsi Asetylen
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG) - Alwminiwm
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG) - Peipen
* Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG) - Dalen

Mae angen sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu da ar fyfyrwyr. Rhaid eich bod wedi cwblhau cymhwyster lefel 2 perthnasol.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei ennill trwy gymysgedd o aseiniadau ymarferol ac arholiadau ar-lein / ysgrifenedig.



Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i Addysg Uwch, cyflogaeth neu/a Phrentisiaeth.
£750.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?