Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Addysg a Hyfforddi (QCF)
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA14720 |
Lleoliad | Online/Yale |
Hyd | Rhan Amser, 13 wythnos. Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at jeanette.edwards@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs. |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli, Addysgu, Asesu ac Addysg |
Dyddiad Dechrau | 15 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 08 Dec 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar swyddi, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant. Yn ogystal â hyn bydd yn rhoi gwybodaeth ar sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol, a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.
Mae’r cymhwyster hwn yn gallu eich helpu chi i symud ymlaen i swyddi hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes.
(Uned 301) Deall swyddi, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant
Galluogi’r dysgwr i ddeall swydd a chyfrifoldebau athro a’r berthynas rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol ym meysydd addysg a hyfforddiant. Mae’n cynnwys cyfrifoldeb dros gynnal amgylchedd diogel a chefnogol. [3 chredyd]
(Uned 302) Deall a defnyddio dulliau cynhwysol addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant
Galluogi’r dysgwr i ddeall a defnyddio dulliau cynhwysol addysgu a dysgu. Mae’n cynnwys sut i greu amgylchedd dysgu sy’n ennyn diddordeb myfyrwyr ac yn eu cymell, a gallu cynllunio, cyflwyno a gwerthuso dulliau ac ymagweddau sy’n cael eu defnyddio. [6 chredyd]
(Uned 305) Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant
Galluogi’r dysgwyr i ddeall sut mae gwahanol fathau a dulliau asesu yn cael eu
defnyddio. Mae’n cynnwys modd o gynnwys dysgwyr wrth asesu a’r gofynion cadw
cofnodion yn effeithiol.
Mae’n cynnwys sesiwn ymarferol micro-addysgu 30 munud o hyd i gymheiriaid am
bwnc a ddewisir o arbenigedd pwnc eich hun. [3 chredyd]
Er mwyn ennill y Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn llawn, mae’n rhaid i ddysgwyr ennill 12 credyd.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad i’r rhaglen, er y bydd angen i bob dysgwr gwblhau asesiadau ar-lein Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.
Bydd dysgwyr yn llunio Portffolio Tystiolaeth a fydd yn cynnwys 3 aseiniad ysgrifenedig (ar gyfer unedau 301, 302 a 305) ac aseiniad ymarferol, h.y. sesiwn micro-addysgu 20 munud o hyd i gymheiriaid (uned 302).
Mae’r cymhwyster hwn yn gallu eich helpu chi i symud ymlaen i swyddi addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.
£560
Mae’r Gwerslyfrau a Argymhellir ar gael i’w benthyg o lyfrgell y coleg –
Amanda Turner & Joanne Whiting, Level 3 Award in Education and Training, City & Guilds, London, 2014. (ISBN 978 0 85193 294 1)
Ann Gravells, The Award in Education & Training, 2014 (ISBN 978-1473912212)
Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddarllen yn ehangach, y tu hwnt i werslyfrau’r cwrs.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Dim data i'w weld