Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA16395 |
Lleoliad | Online/Northop |
Hyd | Rhan Amser, Gall ymgeiswyr ddewis astudio trwy sesiynau wyneb yn wyneb yn Ysgol Fusnes Llaneurgain neu’r sesiynau ar-lein (ar yr amod fod ganddyn nhw’r offer angenrheidiol i ddefnyddio Google Meet a Classroom) Mae’r rhaglen yn cynnwys 4 sesiwn hyfforddi o 9:30 – 15:30 (yn gorffen ddim hwyrach na hynny) ar y dyddiadau canlynol: 7.10.25 28.10.25 18.11.25 9.12.25 Bydd angen amser ar yr ymgeiswyr hefyd i weithio ar eu haseiniadau y tu allan i’r sesiynau hyfforddi. |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli |
Dyddiad Dechrau | 07 Oct 2025 |
Dyddiad gorffen | 29 Dec 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Astudir dwy uned:
8607-520 Asesu eich Gallu i Arwain a’ch Perfformiad
8607-519 Datblygu ac Arwain Timau i Gyflawni Nodau ac Amcanion Sefydliadol
Byddwn ni’n edrych ar ‘Sgiliau Astudio’ ar ddechrau’r cwrs, i gynorthwyo ymgeiswyr i ymchwilio ac ysgrifennu aseiniadau yn effeithiol.

Ar gyfer lefel 5 byddwn fel arfer yn gofyn i’r ymgeisydd fod mewn swydd addas a’u bod nhw wedi astudio at lefel 4 yn flaenorol gan fod angen meddu ar sgiliau darllen llenyddiaeth, dyfynnu a chyfeirio yn ogystal â gwerthusiad beirniadol.
Dau aseiniad ysgrifenedig, wedi eu gosod gan ILM. Nid oes arholiadau, ac nid oes canlyniad llwyddo neu fethu.
Mae’r cwrs yn ddelfrydol i’r bobl ganlynol:
• Rheolwyr canol profiadol gweithredol, neu ddarpar uwch reolwyr.
• Rheolwyr canol profiadol sydd eisiau cymhwyster rheoli trosglwyddadwy ffurfiol.
Fel prif ddarparwr cymwysterau a hyfforddiant rheoli’r DU, mae rhaglenni’r Sefydliad Arwain a Rheoli yn darparu’r wybodaeth graidd a’r sgiliau ymarferol i reoli, ysgogi ac ysbrydoli eraill.

£450.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Dim data i'w weld