Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA14278 |
Lleoliad | Online/Northop |
Hyd | Rhan Amser, Dylid cwblhau’r dysgu o fewn 12 mis. (34 wythnos fel arfer). Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs. |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli |
Dyddiad Dechrau | 16 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 30 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
DARPARIAETH / CYMORTH TIWTOR:
Dyma raglen a addysgir, gyda chymorth tiwtor ar gyfer asesiadau ac aseiniadau. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno rhan-amser, yn y prynhawn, 4 awr yr wythnos. Bydd y rhaglen yn cynnwys 4 uned graidd orfodol:
* Busnes, Diwylliant a Newid Mewn Cyd-destun
* Egwyddorion Dadansoddi Data
* Ymddygiadau Craidd i Weithwyr Proffesiynol Pobl.
* Hanfodion Arferion Pobl
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd aelodau’r cwrs yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Sylfaen y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (Dynodiad: CIPD Sylfaen)

Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfle i aelodau’r cwrs ymgyfarwyddo ag ystod eang o wybodaeth berthnasol ac arbenigedd mewn Arferion Pobl. Mae’r cwrs yn addas i bobl sydd:
* Yn astudio, yn dyheu am neu’n cychwyn ar yrfa mewn Arferion Pobl.
* Eisoes yn gweithio mewn rôl cefnogi Arferion Pobl ac eisiau datblygu gwybodaeth ehangach o’r maes er mwyn darparu gwerth uniongyrchol, tymor byr ar gyfer eu sefydliad.
* Eisiau datblygu’r wybodaeth arbenigol, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen i fod yn weithwyr proffesiynol pobl.
* Yn berchnogion neu reolwyr busnesau bach.

Nid oes unrhyw arholiadau.
Caiff pob uned ei hasesu trwy amrywiaeth o dasgau asesu a allai gynnwys aseiniadau, astudiaethau achos, dadansoddi ystadegau neu weithgareddau ymarferol. Bydd disgwyl i aelodau’r cwrs asesu eu datblygiad eu hunain a chynnal Cofnod DPP/Cofnod Dysgu a gaiff ei gyflwyno a’i adolygu.

Mae’r cymhwyster yn hwyluso datblygiad gyrfa er mwyn symud ymlaen i rôl gweithiwr broffesiynol pobl. Bydd yn arwain at gymwysterau ychwanegol sydd wedi’u cymeradwyo gan QCF yn y gweithle fel cymhwyster Diploma Cyswllt CIPD mewn naill ai Rheoli Pobl neu Ddysgu a Datblygu Sefydliadol neu gymwysterau eraill sydd wedi’u cymeradwyo gan QCF yn y gweithle.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.