Sut i Annog a Mentora yn y Gweithle

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA17390
Lleoliad
Online/Northop
Hyd
Rhan Amser, 22 Ionawr 2026
9:30am i 12:30pm
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Hyfforddi a Mentora
Dyddiad Dechrau
22 Jan 2026
Dyddiad gorffen
22 Jan 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n barod i ddarganfod pŵer trawsnewidiol annog a mentora?

Ymunwch â ni am brofiad addysgiadol ac ymarferol sydd wedi’i lunio i'ch cyflwyno chi i effaith yr arferion hyn mewn datblygiad personol a phroffesiynol - gan ganolbwyntio ar feithrin gwytnwch fel arweinydd.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu
Deall Annog a Mentora: Archwilio’r egwyddorion craidd a'r gwahaniaethau allweddol rhwng annog a mentora.
Buddion a Chymwysiadau: Darganfod sut y gall y dulliau hyn ysgogi twf, llwyddiant a gwytnwch wrth arwain ac mewn bywyd bob dydd.
Gweithgareddau rhyngweithiol: Cymryd rhan mewn ymarferion ymarferol i brofi technegau annog a mentora yn uniongyrchol.
Rôl yr Anogwr a’r Mentor: Cael mewnwelediad i rolau, cyfrifoldebau a rhinweddau hanfodol anogwyr a mentoriaid effeithiol.
Datblygu Sgiliau Allweddol: Cryfhau sgiliau cyfathrebu, gwrando a chwestiynu hanfodol i gefnogi eraill a chi'ch hun yn fwy effeithiol.


Pam dilyn y cwrs?
Archwilio llwybrau gyrfa newydd: Datgloi cyfleoedd gyrfa posibl ym maes annog a mentora sy’n datblygu’n gyflym.
Datblygu gwytnwch: Dysgu sut mae annog a mentora yn helpu’r rhai sydd mewn rôl arwain i fod yn fwy gwydn, hyblyg a hyderus.
Twf personol: Gwella eich perthnasoedd personol a phroffesiynol gyda strategaethau a safbwyntiau newydd.
Dysgu ymarferol: Ennill y sgiliau y gallwch chi eu defnyddio ar unwaith yn eich gwaith ac yn eich bywyd.
Rhwydweithio: Cysylltu â gweithwyr proffesiynol o'r un anian yn ogystal ag ymarferwyr profiadol a hynny mewn amgylchedd cefnogol.


Pwy ddylai ddilyn y cwrs?
Mae'r diwrnod blasu hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
Gweithwyr proffesiynol sy’n ysytyried newid trywydd eu gyrfa
Rheolwyr ac arweinwyr tîm sy’n ceisio datblygu sgiliau arwain a gwytnwch
Unigolion sy’n ceisio twf personol ac eisiau gwella eu hunain
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Briff Brecwast Cambria ar gyfer Busnes
02/07/2025

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?