Diploma Cenedlaethol Uwch mewn E-Chwaraeon

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01632
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser,
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Gweithrediadau Hamdden, Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
22 Sep 2025
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn amodol ar Gymeradwyaeth

Wrth ddewis cymhwyster HND Cambria mewn E-Chwaraeon, byddwch chi’n astudio ystod o bynciau gan roi sylfaen eang o wybodaeth i chi sy’n ymwneud ag amrywiaeth ac agweddau allweddol y sector. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i gysylltu â chyfleoedd gyrfa posibl yn y sector a helpu i hwyluso’ch dilyniant i gyflogaeth neu astudiaeth bellach ar Lefel 6 a thu hwnt.

Bydd cynnwys y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gwaith ymarferol, tiwtorialau rhagweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai.

Prif nodweddion astudio cymhwyster HND mewn E-Chwaraeon yn Cambria yw:

Cyfleusterau ardderchog gan gynnwys tair arena E-Chwaraeon ac ystafell ddarlledu
Rigiau rasio Sim - sy'n golygu mai ni yw'r coleg cyntaf yng Nghymru i gael partneriaeth gyda Williams Racing
Tiwtor Personol a chefnogaeth un i un
Tiwtoriaid sydd â phrofiad allweddol yn y diwydiant
Cysylltiadau o fewn y Diwydiant E-Chwaraeon, e.e. Esports Wales, British Esports Association

BETH FYDDA’ I’N EI ASTUDIO?

Bydd graddedigion sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn cael set sgiliau amrywiol sy'n addas ar gyfer yr ystod eang o gyfleoedd yn y sector E-Chwaraeon. Mewn diwydiant hynod gystadleuol, bydd myfyrwyr Cambria yn gallu ymuno â'r gweithlu gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy ac ymarferol yn seiliedig ar ddiwydiant, gan gynnwys rheoli digwyddiadau, cynhyrchu ffrydio byw, marchnata digidol, creu cynnwys, rheoli tîm, a dadansoddi profiad gêm yn strategol. Bydd y sgiliau hyn yn paratoi graddedigion ar gyfer rolau mewn sefydliadau E-Chwaraeon, cynhyrchu cyfryngau, asiantaethau marchnata, a thu hwnt, gan sicrhau eu bod yn barod i ffynnu yn y maes deinamig hwn sy'n datblygu'n gyflym.

Yn ogystal â'r unedau theori uchod, mae gan fyfyrwyr hefyd amser tiwtorial pwrpasol, sesiynau sgiliau astudio, siaradwyr gwadd, tripiau a sesiynau ymarferol i gefnogi eu hastudiaethau ymhellach.

Modiwlau Blwyddyn 1

Uned 401: Ecosystem E-Chwaraeon
Uned 402: Dadansoddi Sgiliau a Thactegau
Uned 403: Cynllunio a Chyflwyno Digwyddiadau
Uned 404: Cynllunio Prosiect E-Chwaraeon
Uned 415: Athroniaeth Dylunio Gemau
Uned 407: Gweithrediadau Twrnamaint
Uned 408: Cynyrchiadau Clyweledol
Uned 413: Logisteg Timau

Modiwlau Blwyddyn 2

Uned 501: Datblygu Proffesiynol
Uned 502: Prosiect Ymchwil E-Chwaraeon
Uned 512: Technolegau Cynyddol Amlwg
Uned 513: Dadansoddi Gemau a Mewnwelediadau Ystadegol
Uned 505: Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol
Uned 506: Creu Cynnwys
Uned 510: Amgylcheddau Perfformiad Uchel


Ar gyfer dysgwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, rhaid cael un o’r canlynol:

● Cymhwyster Lefel 3 (o leiaf 120 credyd / 720 GLH) mewn E-Chwaraeon neu bwnc cysylltiedig â phroffil teilyngdod – o leiaf 64 pwynt Tariff UCAS

● Graddau Safon Uwch DDE – o leiaf 64 pwynt Tariff UCAS

● Cymhwyster cyfwerth rhyngwladol â’r uchod

Ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos, ond gallant gynnwys un o’r canlynol:

● Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch wedi’i ddyfarnu gan sefydliad addysg bellach cymeradwy mewn maes perthnasol

● Profiad gwaith cysylltiedig

Fel arfer, dylai ymgeiswyr feddu ar radd A* i C a/neu 9 i 4 TGAU Saesneg / Cymraeg a mathemateg / rhifedd.

Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).



Bydd asesiad trwy gyfuniad o ddulliau asesu gan gynnwys asesiadau dan reolaeth, aseiniadau, sesiynau ymarferol, cyflwyniadau, astudiaethau achos, prosiectau ac arsylwi cyfoedion.

Bydd aseiniadau’n cael eu marcio’n electronig a byddwch chi’n cael adborth a chyfarwyddiadau ar gyfer gwella ar gyfer pob asesiad.

Lleoliad gwaith: Nid yw’r rhaglen HND yn cynnwys elfen lleoliad gwaith hanfodol, fodd bynnag, gall tiwtoriaid gyfeirio myfyrwyr at gyfleoedd profiad gwaith posibl.
Bydd gan fyfyrwyr sy’n cwblhau’r HND yn llwyddiannus mewn E-Chwaraeon y cymwysterau angenrheidiol i fynd ar drywydd astudiaeth bellach neu fynd i mewn i’r diwydiant gyda sylfaen gadarn mewn busnes, cyfryngau a rheoli digwyddiadau E-Chwaraeon.

Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys:


• Rheolwr Digwyddiadau E-Chwaraeon
• Cynhyrchydd Darlledu a Ffrydio Byw
• Hyfforddwr E-Chwaraeon neu Ddadansoddwr
• Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol a Chymunedol
• Gweithiwr Creu Cynnwys a Marchnata Digidol
• Chwaraewr Proffesiynol

Mae’r rolau hyn yn ymestyn dros wahanol sectorau, gan gynnwys timau E-Chwaraeon proffesiynol, sefydliadau chwarae gemau, cynhyrchu cyfryngau, ac asiantaethau marchnata digidol, gan ddarparu llwybrau gyrfa amrywiol i raddedigion yn y diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym.

£5,000 bob blwyddyn academaidd

Gall ffioedd blynyddol gynyddu yn unol â chwyddiant ar gyfer pob myfyriwr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2025/26 neu 2026/27.

Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau CMA, mae angen i ni roi gwybod i chi am gostau teithio posibl cyn i chi gofrestru. Weithiau mae sefydliadau E-Chwaraeon yn cynnig teithiau a digwyddiadau cyffrous i’n myfyrwyr. Rydym am i chi fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd hyn, ac y gallent gynnwys treuliau sy’n cael eu hariannu gan fyfyrwyr. Gan y gall y cyfleoedd hyn godi yn ystod y cwrs, ni allwn ni ddarparu costau manwl gywir ar hyn o bryd.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?