Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg - Lefel 4

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA14250
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Medi – Gorffennaf

Iâl, Wrecsam: Dydd Iau 1pm – 7.30pm
Ysgol Fusnes, Llaneurgain: Dydd Mercher 10.30am – 5pm

Wyneb yn wyneb, rhaid dod i mewn i’r coleg.
Adran
Cyfrifeg, Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2025
Dyddiad gorffen
01 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs lefel canolradd. Byddwch yn dysgu am sgiliau arwain tîm cyllid, gan gynnwys datganiadau ariannol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig, sgiliau rheoli cymhleth a meysydd dysgu arbenigol.
Ar ôl gorffen y cwrs, byddwch yn aelod cysylltiedig o’r AAT yn awtomatig. Gyda phrofiad gwaith perthnasol, byddwch yn gymwys ar gyfer aelodaeth lawn yr AAT.

Bydd y lefel uwch yn addas i chi:

*Os ydych chi wedi cwblhau cwrs cyfrifeg lefel canolradd, ac yn dymuno ychwanegu at eich sgiliau
*Os ydych chi’n gweithio ym maes cyllid yn barod, ac yn dymuno cael cydnabyddiaeth ffurfiol o’ch sgiliau
*Os hoffech chi fod yn aelod llawn o AAT, neu astudio ar gyfer statws siartredig

RHEOLI CYFRIFEG CYMHWYSOL
*Deall proses cynllunio’r sefydliad a’i rhoi ar waith
*Defnyddio prosesau mewnol i gynyddu rheolaeth weithredol
*Defnyddio technegau i helpu gwneud penderfyniadau byr dymor
*Dadansoddi ac adrodd ar berfformiad y busnes

DRAFFTIO A DEHONGLI DATGANIADAU ARIANNOL
*Deall y fframweithiau adrodd sy’n sylfaen i adroddiadau ariannol
*Drafftio datganiadau ariannol statudol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig
*Drafftio datganiadau ariannol cyfunol
*Dehongli datganiadau ariannol trwy ddadansoddi cymarebau

SYSTEMAU CYFRIFEG MEWNOL A RHEOLAETHAU
*Deall swyddogaeth a chyfrifoldebau’r adran gyllid mewn sefydliad
*Gwerthuso systemau costau mewnol
*Gwerthuso system cyfrifo a gweithdrefnau greiddiol sefydliad
*Deall effaith technoleg ar systemau cyfrifeg
*Awgrymu gwelliannau ar gyfer system cyfrifeg sefydliad

UNEDAU ARBENIGOL

RHEOLI ARIANNOL AC ARIAN
*Paratoi rhagfynegiad ar gyfer derbynebau a thaliadau arian
*Paratoi cyllideb arian parod a monitro llif arian
*Deall pwysigrwydd rheoli cyllid a hylifedd
*Deall ffyrdd o gynyddu cyllid a buddsoddi arian
*Deall rheoliadau a pholisïau sy’n dylanwadu ar bendefyniadau yngylch rheoli arian a chyllid

RHEOLI CREDYD A DYLED
*Deall deddfwriaethau a chyfreithiau contract perthnasol sy’n effeithio ar yr amgylchedd rheoli credyd
*Deall sut mae gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio i asesu risg credyd a chytuno ar gredyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
*Deall y gwahanol dechnegau sydd ar gael i gasglu dyledion
Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd ag asesiad dechreuol i gadarnhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs hwn.
Mae 5 arholiad ar gyfrifiaduron y byddwch yn eu sefyll yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Cafodd asesiadau AAT eu llunio i asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r sgiliau rydych chi wedi eu meithrin. Mae asesiadau AAT yn cael eu gwneud ar gyfrifiaduron ac yn cael eu marcio gan AAT.
Mae canlyniadau ar gael 6 wythnos ar ôl i’r asesiadgael ei gwblhau. Mae’r holl asesiadau L4 yn cael eu marcio’n rhannol gan bobl ac yn rhannol gan gyfrifiaduron.
Swyddi posibl ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn
*Goruchwylydd Adran Cyfrifon Taladwy a Threuliau
*Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
*Dadansoddydd Masnach
*Cyfrifydd Cost
*Cyfrifydd Asedau Sefydlog
*Rheolwr Treth Anuniongyrchol
*Rheolwr Taliadau a Bilio
*Rheolwr Cyflogres
*Ceidwad Cyfrifon Uwch
*Swyddog Cyllid Uwch
*Cyfrifydd Cronfa Uwch
*Gweinyddydd Methdaliadau Uwch
*Goruchwylydd Trethi
*Cyfrifydd TAW
£2075

Mae’n rhaid talu cost ychwanegol am Diwtorialau a Llyfrau Gwaith
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?