Tystysgrif L2 Cyfrifeg (Rhan Amser - dydd)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA17686
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Medi – Gorffennaf
Iâl, Wrecsam: Dydd Llun, 1pm – 7.30pm
Ysgol Fusnes Llaneurgain: Dydd Mawrth, 1pm – 7.30pm

Adran
Cyfrifeg, Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
16 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw eich cyflwyno i sgiliau cyfrifo a chyllid syml. Byddwch yn meithrin eich sgiliau mewn gweinyddiaeth cyllid: cofnodi dwbl, egwyddorion costio syml, a chyfriflyfrau prynu, gwerthu a chyffredinol.
Fel cymhwyster annibynnol, neu fel cam cyntaf tuag at y lefelau canolradd ac uwch, bydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i astudio rhagor ym maes cyfrifeg a chyllid.

Bydd y lefel ragarweiniol yn addas i chi:
* Os ydych chi’n gweithio ym maes cyfrifon ac yn dymuno cael cymhwyster ffurfiol yn y maes
* Os hoffech chi feithrin sgiliau newydd i’ch cynorthwyo gyda newid eich gyrfa
* Os ydych chi’n ymadäwr ysgol sy’n chwilio am gyflwyniad i gyfrifeg a chyllid
* Os nad ydych chi mewn gwaith neu hyfforddiant, a bod angen sgiliau yn y gweithle arnoch chi
* Os hoffech chi fod yn aelod llawn o AAT, neu astudio ar gyfer statws siartredig


CYFLWYNIAD I GADW CYFRIFON
* Deall sut i osod systemau cadw cyfrifon
* Prosesu trafodion cwsmeriaid
* Prosesu trafodion cyflenwyr
* Prosesu derbynebau a thaliadau
* Prosesu trafodion i gyfrifon y cyfriflyfrau

EGWYDDORION RHEOLAETHAU CADW CYFRIFON
* Defnyddio cyfrifon rheoli
* Cymodi cyfriflenni gyda llyfr arian
* Cynhyrchu balansau prawf

EGWYDDORION COSTIO
* Deall y systemau cofnodi costau mewn sefydliad
* Defnyddio technegau recordio cost
* Darparu gwybodaeth ar gost ac incwm gwirioneddol ac wedi’u cyllidebu
* Defnyddio dulliau a thechnegau i gynorthwyo cyfrifiadau cost

YR AMGYLCHEDD BUSNES
* Deall egwyddorion cyfreithiau contract
* Deall yr amgylchedd busnes allanol
* Deall egwyddorion allweddol cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, moeseg a chynaliadwyedd
* Deall effaith sefydlu gwahanol fathau o endid busnes
* Deall y swyddogaeth gyllid o fewn sefydliad
* Cynhyrchu gwaith mewn fformatau priodol a chyfathrebu'n effeithiol
* Deall pwysigrwydd gwybodaeth i weithrediadau busnes



TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster cyfwerth.
Bydd gofyn i chi ymgymryd ag asesiad dechreuol i gadarnhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs hwn.



Cafodd asesiadau AAT eu llunio i asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r sgiliau rydych chi wedi eu meithrin. Asesiadau AAT:
* Maent yn asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron
* Maen nhw’n cael eu marcio bron yn awtomatig, felly cewch chi weld y canlyniadau dros dro yn syth. Mae hyn yn eich galluogi i ddeall sut rydych chi’n dod ymlaen.

Mathau o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron
Mae dau fath o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron:

* Profion ar gyfrifiaduron a gaiff eu marcio gan feddalwedd cyfrifiadurol AAT, lle mae canlyniadau dros dro ar gael ar ddiwrnod yr asesiad.
* Prosiectau ar sail cyfrifiadur sydd wedi’i farcio’n rhannol ar gyfrifiadur ac yn rhannol gan bobl sef Arholwyr AAT. Mae canlyniadau’r arholiadau hyn yn cymryd 6 wythnos i gyrraedd.

Swyddi posibl ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn
* Gweinyddydd Cyfrifon
* Cymhorthydd Cyfrifon
* Clerc Cyfrifon Taladwy
* Ceidwad Cyfrifon
* Gweinyddydd Cyflogres
* Swyddog Cyflogres
* Clerc Cyfriflyfrau Prynu / Gwerthiant
* Cymhorthydd Treth / Dan Hyfforddiant
* Technegydd Cyfrifon Dan Hyfforddiant
£1800

Mae’n rhaid talu cost ychwanegol am diwtorialau a llyfrau gwaith.

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?