Prentisiaethau Gradd Ddigidol - BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Prentisiaeth Gradd Ddigidol yn cynnig ffordd hyblyg i chi astudio gradd wrth weithio. Gan gyfuno gwaith ac addysg brifysgol, bydd y cwrs hwn yn caniatáu ichi ennill cyflog wrth ddysgu, mewn un o dair ffrwd flaengar.

Caiff y cwrs hwn ei ariannu'n llawn. Fe'i darperir gan Goleg Cambria mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, a fydd yn dyfarnu'r radd.

Cwrs tair blynedd yw hwn. Bydd y ddarpariaeth yn cynnwys 9 awr o gyflwyno bob wythnos ym Mlwyddyn 1 a’r un peth ym Mlwyddyn 2 a 3 - i'w rannu dros un diwrnod 6 awr ac un noson 3 awr. Cynhelir y cwrs yng Ngholeg Cambria ar gyfer Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ac ym Mhrifysgol Bangor ym Mlwyddyn 3.

Gellir gweld y cynnwys ar gyfer pob blwyddyn isod.


BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - H300

Blwyddyn 1
Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd)
Systemau Cyfrifiadurol (10 credyd)
Cyflwyniad i Raglennu (20 credyd)
Modelu Data (10 credyd)
Dylunio Gwefannau Hygyrch (10 credyd)
Creu a Rheoli Gwefannau Hygyrch (20 credyd)
Sgiliau Ymchwil ac Astudio (10 credyd)
Dysgu mewn Cyflogaeth 1 (20 credyd)

Blwyddyn 2
Datblygu Technoleg Symudol (20 credyd)
Rhaglennu sy’n Canolbwyntio ar Wrthrych (20 credyd)
Cyflwyniad i Ganolwedd (10 credyd)
Rheoli Prosiect ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Cyfrifiadurol (10 credyd)
Seiberddiogelwch a Thechnoleg y Dyfodol (20 credyd)
Dulliau Ymchwil a Sgiliau Astudio (20 credyd)
Dysgu mewn Cyflogaeth 2 (20 credyd)

Blwyddyn 3
Astudiaeth Prototeipio Meddalwedd (20 credyd)
Datblygu Meddalwedd Cynhyrchu - Prosiect Ymchwil (20 credyd)
Peirianneg Meddalwedd (20 credyd)
Diogelwch Rhwydwaith a Chyfrifiaduron (20 credyd)
Rhaglennu Busnes a Menter (20 credyd)
Profiad Defnyddwyr (UX) a HCI (20 credyd)
Bydd deunydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarpariaeth ac aseiniadau yn y coleg ac ar-lein, ac asesiadau yn y gwaith.

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio, yn ychwanegol at yr oriau a addysgir
Cymhwyster Galwedigaethol lefel 3 gyda phroffil gradd TTT o leiaf, 3 chymhwyster Safon Uwch gyda phroffil gradd D neu uwch, Diploma Mynediad i AU, i gynnwys 45 credyd Lefel 3 y mae’n rhaid i 30 ohonynt fod ar lefel Teilyngdod neu uwch NEU brofiad priodol a’r gallu i astudio a gweithredu ar Lefel 4. Asesir pob ymgeisydd fesul achos yn dibynnu ar eu profiad perthnasol unigol. Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr a ydych yn bodloni’r gofynion mynediad.

Bydd angen i ddysgwyr ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar lefel 3 o leiaf oni bai bod gan y dysgwr TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Mae angen i fyfyrwyr fod yn gweithio yn llawn amser neu’n rhan-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn swydd briodol.
Bydd graddedigion sy’n cwblhau’r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn llwyddiannus yn gallu dangos gwybodaeth gadarn am gysyniadau a sgiliau peirianneg meddalwedd a chyfrifiadura.

Gall y sgiliau a gynigir fel rhan o’r cwrs hwn roi cyfle i raddedigion weithio mewn sawl maes gwahanol o’r sectorau peirianneg meddalwedd a chyfrifiadura
Ariennir y cwrs hwn yn llawn, yn amodol ar gadarnhad gan CCAUC, sy’n cynnwys ffioedd dysgu llawn y cwrs o £27,000, (£9,000 y myfyriwr y flwyddyn, dros 3 blynedd)
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?