Diploma Proffesiynol Level 4 UAL mewn Mentergarwch Creadigol

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma Proffesiynol Lefel 4 UAL mewn Menter Greadigol wedi'i gynllunio i roi’r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i fyfyrwyr sy'n angenrheidiol i ddatblygu eu gyrfaoedd fel gweithwyr proffesiynol creadigol. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr feithrin eu cyflogadwyedd trwy ddatblygu eu sgiliau menter greadigol, ehangu eu sylfaen gyswllt wrth ddatblygu eu prosiectau cychwyn ac ymarfer proffesiynol. Mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dechrau eu prosiectau neu eu cwmni eu hunain ac sy'n dymuno archwilio ac ymestyn eu hymarfer creadigol trwy brofiad dysgu trochol.
Caiff y cymhwyster hwn ei asesu trwy:
> dwy uned wedi’u hasesu’n fewnol a’u cymedroli, sy’n destun sicrwydd ansawdd gan Gorff Dyfarnu UAL
> un uned wedi’i hasesu’n fewnol sy’n cael ei marcio gan y ganolfan a’i safoni gan Gorff Dyfarnu UAL
TGAU Chymraeg/Saesneg (Iaith gyntaf) a Mathemateg gradd C/4 (neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth)
Cymwysterau Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3, prentisiaeth berthnasol neu brofiad diwydiant perthnasol

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Cyflogaeth / Hunangyflogaeth – Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn sefydlu eu cwmni eu hunain, dod yn weithiwr llawrydd neu symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth.
Addysg uwch – Bydd y cymhwyster yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu portffolio o waith, gan eu galluogi i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu conservatoires.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?